Fireside Stories: Rhy Debyg
-
Rhy Debyg
Strangely Alike
-
FUOST di 'roed yn synu, ebe F'ewyrth Edward, er cymaint o bobol sydd yn y byd, a bod gwynebau pawb o honom ar yr un ffurf a chynllun, mor anaml y cei di ddau wyneb mor debyg i'w gilydd na fedri di ganfod yn union, wrth graffu arnynt, fod digon o wahaniaeth ynddynt?
It has often struck me as strange, said my Uncle Edward, that, although there are so many people in the world, and all our faces are made to the same general pattern and design, it is so rare to find two faces so much alike that, upon examining them closely, you cannot discover quite enough differences between them?
-
Bendith fawr ydyw hyn; a mi fyddaf yn gweled cymaint o ddoethineb y Creawdwr mawr ynddo ag mewn dim.
This is a great blessing, and I see as much of the wisdom of the great Creator in it as in anything.
-
Ac un o'r pethau casaf genyf ar wyneb daear ydyw gweled rhai hynod debyg i'w gilydd, megis efeilliaid, a mae gen i reswm da am hyny.
And one of the things I dislike most in this world is seeing people who look remarkably alike, like twins, and I have good reason for feeling that way.
-
Dyma iti stori smala yn fy hanes i fy hun – bron yn rhy smala i'w chredu, ond gelli ei chredu neu beidio.
Here is a strange story from my own life—almost too strange to be believed, but you may believe it or not, as you please.
-
Pan oeddwn i oddeutu wyth ar hugain oed, yr oedd gen i fusnes i fyn'd i Groesoswallt.
When I was about twenty-eight years old, I had some business that required me to go to Oswestry.
-
Mi gymere ormod o amser i mi ddeud wrthot ti beth oedd y busnes, ond, yn fyr, yr oedd gen i eisio gweld dyn ar fater pwysig,ac yr oedd yntau wedi addaw nghyfarfod i yn Nghroesoswallt yn y ffair ceffylau.
It would take too long to tell you what the business was, but, briefly, I needed to see a man about an important matter, and he had promised to meet me at the horse fair in Oswestry.
-
Oherwydd pellter y ffordd, a rhag i mi ei golli, yr oeddwn wedi gofalu cyraedd y dre y noson o flaen y ffair.
Because of the distance I had to travel, and so as not to miss him, I had made sure to reach the town on the evening before the fair.
-
Mi ges lety digon cyfforddus mewn tŷ preifat.
I found quite comfortable lodgings in a private house.
-
Mi wyddwn yn burion er's blynyddau fod rhai o deulu mam yn byw yn agos i Groesoswallt, ond o herwydd rhyw ffrae nid oedd dim cyfathrach wedi bod rhyngom ni â hwy; ac, hyd yr oeddwn yn cofio, nid oeddwn wedi gweld un o honynt erioed, a nid oeddwn yn bwriadu ymweled â hwynt, nac ymholi dim yn eu cylch.
I had known for years that some of my mother's relatives lived near Oswestry, but, owing to some quarrel, there had been no communication between us and them. As far as I could remember, I had never seen any of them, and I had no intention of visiting them or making any enquiries about them.
-
"Paid a myreth dim a nhw; os medran nhw neud hebon ni, mi fedrwn ninau neud hebddyn nhwythe," ebe mam, pan oeddwn yn cychwyn, ac ni feddyliais mwy am danynt.
"Have nothing to do with them; if they can manage without us, we can manage without them," said my mother when I was setting off, and I thought no more about them.
-
'Doeddwn 'rioed wedi bod yn Nghroesoswallt o'r blaen, a thranoeth y bore mi grwydr es gryn dipyn i weled y dre', achos 'doedd ffair y ceffylau ddim yn dechreu tan ganol dydd.
I had never been to Oswestry before, and the following morning I wandered about quite a bit to see the town, since the horse fair did not begin until midday.
-
Wrth droi am gornel stryt mi ddois i wyneb clamp o blismon, a mi rythodd arna i fel bydase gen i gyrn ar y mhen.
As I turned a street corner, I came face to face with a huge policeman, who stared at me as though I had horns growing out of my head.
-
Yr oeddwn yn methu dallt pam yr oedd y dyn yn rhythu arna i felly, achos 'doedd dim neilltuol yn y ngwisg i, oblegid yr oedd agos i bob ffarmwr y pryd hwnw yn gwisgo brethyn cartre.
I could not understand why the man was staring at me like that, for there was nothing unusual about my clothing, since almost every farmer at that time wore homespun cloth.
-
Yr oeddwn yn meddwl nad oedd dim neilltuol yno'i i dynu sylw ond y ngwallt, — yr hwn, pan oeddwn yn ifanc oedd cyn ddued â'r fran, ac yn grych fel gwlan oen bach.
I thought the only unusual thing about me that might attract attention was my hair—which, when I was young, was as black as a crow and as curly as a little lamb's wool.
-
I mi gyfadde fy ngwendid i ti, yr oeddwn yn meddwl cryn dipyn o ngwallt, achos 'doeddwn i 'rioed wedi gweld ei debyg.
To confess one of my weaknesses to you, I was rather proud of my hair, because I had never seen anything quite like it.
-
Hyny fu, ac ni feddyliais mwy am y plismon.
That was that, and I thought no more about the policeman.
-
Mi grwydres awr arall hyd y dre nes oeddwn wedi blino, a mi drois i dy tafarn i orffwys tipyn.
I wandered around the town for another hour until I was tired, and then I turned into an inn to rest for a while.
-
'Doedd neb yn meddwl dim at hyny yr adeg hono.
Nobody thought anything of that in those days.
-
Mi wranta y mod i wedi bod yn y dafarn chwarter awr mewn ystafell ar fy mhen fy hun yn bwrw'r amser heibio, pryd y daeth i fewn ddyn tua'r un oed a fi, ac mor debyg i mi nes y dychrynais wrth edrych arno.
I suppose I had been sitting alone in a room at the inn for about a quarter of an hour, passing the time, when a man of about my own age came in. He looked so much like me that I was startled when I saw him.
-
Yr oedd ei wallt yn ddu a chrych fel fy un inau, a'i wyneb yr un ffunud a fy wyneb inau, ac nid oedd fawr o wahaniaeth yn lliw ei ddillad.
His hair was black and curly, just like mine, and his face was exactly like mine too. There was very little difference in the colour of his clothes.
-
Oni bai fy mod yn gwybod fod hyny yn amhosibl, mi faswn yn tyngu mai fi fy hun oedd y dyn.
If I had not known it was impossible, I would have sworn that the man was none other than myself.
-
Gwelwn ei fod yntau wedi ei daro gan y tebygrwydd, ond ni dd'wedodd air.
I could see that he too was struck by the resemblance, but he did not say a word.
-
Cerddodd yn ol a blaen hyd yr ystafell am funyd, yna safodd ac edrychodd drwy y ffenest i'r heol; ac heb alw am ddim i'w yfed llithrodd allan yn ddistaw drwy ddrws oedd yn ymddangos i mi fel y drws cefn i'r tŷ.
He walked up and down the room for a moment, then stopped and looked through the window out into the street. Without asking for anything to drink, he slipped quietly out through a door that appeared to me to be the back door of the house.
-
Yn mhen dau funyd dyma y plismon a welswn o'r blaen i'r ystafell, ac ebe fe, —
Two minutes later, the policeman I had seen earlier came into the room, and he said:
-
"Wel, John Jones, yr ydach chi wedi troi gartref o'r diwedd?"
"Well, John Jones, so you've finally come home, have you?"
-
"Fy enw i ydi Edward Jones, a mae'n debyg eich bod yn fy nghamgymeryd am y gŵr sydd newydd fyn'd allan," ebe fi.
"My name is Edward Jones, and I think you must be mistaking me for the gentleman who has just gone out," I replied.
-
"Thâl stori fel ene ddim i mi, John, yr wyf yn eich 'nabod yn rhy dda o lawer, a gwell i chi ddod efo fi ar unwaith," ebe'r plismon.
"That sort of story won't do with me, John. I know you far too well, and you'd better come with me at once," said the policeman.
-
Heb fod lawer oddicartre yr oeddwn yn bur ddiniwed, ac yr oeddwn wedi dychrynu yn enbyd.
Having seldom been away from home, I was quite inexperienced, and I was terribly frightened.
-
Protestiais nad y fi oedd John Jones, pwy bynag oedd hwnw; a dwedais, yn fyr fy ngwynt, dipyn o fy hanes, a chymerais fy llw nad oeddwn wedi bod yn Nghroesoswallt o'r blaen yn fy mywyd.
I protested that I was not John Jones, whoever that might be. Breathlessly, I told him something of my story, and swore that I had never in my life been to Oswestry before.
-
Ond ni chafodd dim a ddwedais wrth y plismon fwy o argraff arno na pheri iddo wenu yn wawdlyd, ac ebe fe, —
But nothing I said made the slightest impression on the policeman, beyond causing him to smile mockingly, and he said:
-
"John, waeth i chi roi stop arni yn y fan ene; neiff cyboli celwydd les yn y byd i chi. Dowch efo fi yn ddistaw ac yn llonydd."
"John, you'd better stop that right there. All your lying won't do you the slightest good. Come quietly with me."
-
"Beth ydi'r cyhuddiad yn fy erbyn?"
"What am I being charged with?"
-
gofynais inau.
I asked.
-
"Does dim isio dweud pader i berson," ebe fynte.
"There's no need to tell a person everything," he replied.
-
Mi elwais ar wraig y dafarn, gan ddisgwyl rhyw gynorthwy ganddi hi, ond wnaeth hono ddim ond gwneud fy helynt yn fwy.
I appealed to the landlady, hoping she might help me, but all she did was make matters worse.
-
Tyngodd ar ei pheth mawr na fu un dyn yn y tŷ tra y bum i yno, a galwodd y forwyn a thyngodd hono yr un peth.
She swore by all that was sacred that no other man had been in the house while I was there, and she called the servant girl, who swore to the same thing.
-
"Ydach chi'n gweld, John, na neiff palu celwydd les yn y byd i chi?"
"You see, John, that all your lying won't do you any good, don't you?"
-
ebe'r plismon.
said the policeman.
-
"Hoswch chi," ebe'r. wraig,
"Wait a moment," said the woman,
-
"ai nid John Jones, Tan'rallt, ydio? Wel, ond 'doeddwn i'n smala na faswn i'n 'nabod y dyn?"
"Isn't that John Jones of Tan'rallt? Well, I'd surely know the man, wouldn't I?"
-
"Yn smala, oeddach debyg," ebe'r plismon.
"You certainly seem to know him well," said the policeman.
-
"Yr ydach chi'n gneud camgymeriad yn siwr," ebe fi, ac yr oeddwn just a chrïo.
"You must certainly be making a mistake," I said, and I was on the verge of tears.
-
"Mi weles Mary ddoe, a 'roedd hi'n sôn am danoch chi, John," ebe'r forwyn wrthyf yn ddistaw, a mi faswn yn medrud ei tharo.
"I saw Mary yesterday, and she was talking about you, John," the servant girl whispered to me. I could have struck her.
-
"Dyma chi, John," ebe'r plismon,
"Now then, John," said the policeman,
-
"os na ddowch chi efo fi yn ddistaw ac yn llonydd, mi fydd raid i mi'ch handcyffio, ond 'does gen i ddim isio'ch sposio chi."
"if you don't come quietly with me, I'll have to put handcuffs on you, though I'd rather not have to do that."
-
"Ië, ewch y machen i heb neud row," ebe'r dafarnwraig.
"Yes, off you go, young man, without making a fuss," said the landlady.
-
A myn'd a neis i — yn wir, 'doedd gen i ddim dewis — yr oedd yn rhaid i mi fyn'd, ond yr oeddwn yn disgwyl y caent ryw oleu ar eu camgymeriad.
And so off I went—indeed, I had no choice. I had to go, but I expected that they would eventually realise their mistake.
-
Yr oedd yn ddiwrnod ffair, fel y dwedais, ac yr oedd canoedd o lygaid yn edrach arna i wrth i mi fyn'd yn ochr y plismon drwy'r dre, a buasai twr o blant wedi'n canlyn oni bai i'r plismon eu bygwth.
It was fair day, as I have said, and hundreds of eyes watched me as I walked through the town beside the policeman. A crowd of children would have followed us if the policeman had not threatened them.
-
Teimlwn y ngwyneb yn llosgi fel tân, a chlywn hwn a'r llall yn dweud,—
I felt my face burning like fire, and heard one person after another saying:
-
"Be mae hwn ene wedi neud os gwn i?"
"I wonder what that fellow has done?"
-
"Dim da yn siwr i chi."
"Nothing good, that's for sure."
-
"Piti hefyd, mae golwg barchus arno."
"A pity, too. He looks like a respectable man."
-
"Dyna y rhai gwaetha yn aml."
"Those are often the worst kind."
-
Cawn y credyd gan ambell un yr awn heibio iddo fod yn amlwg fy mod yn teimlo fy sefyllfa, ac felly yr oeddwn yn siwr ddigon.
A few people we passed gave me credit for clearly feeling the shame of my situation, and I can assure you they were quite right.
-
Edrychwn dan y nguwch a welwn i neb yn y ffair oedd yn fy nabod, ond yn ofer, a diau mai hyny barodd i un, tebyg i fugail, ddweyd wrth i mi ei basio, –
I looked beneath my cap to see whether there was anyone at the fair who knew me, but in vain. No doubt that was what prompted a man, who looked like a shepherd, to say as I passed him:
-
"Ci lladd defaid ydi o'n siwr i chi."
"He's certainly a sheep-killer, I'll warrant."
-
Wel, cymerwyd fi i'r rowndws, a 'doedd o ddiben yn y byd i mi brotestio, dweud fy hanes, gofyn am eglurhad, na dim arall; yr unig ateb a gawn oedd y cawn ddweud y cwbl wrth y magistrate bore dranoeth.
Well, I was taken to the lock-up, and there was no use in my protesting, telling my story, asking for an explanation, or doing anything else. The only answer I got was that I could explain everything to the magistrate the following morning.
-
Prydnawn tost oedd hwnw; mi cofiaf o byth, a chysges i 'run winc ar y ngwely pren y noson hono, a meddyliwn weithiau mai breuddwyd oedd y cwbl.
It was a dreadful afternoon, one I shall never forget. I did not sleep a wink that night on my wooden bed, and sometimes I wondered whether the whole thing was a dream.
-
Heb i mi gwmpasu, dygwyd fi o flaen fy ngwell — yr unig dro yn y mywyd.
Before I knew it, I was brought before my betters—the only time that ever happened in my life.
-
Nid oedd ond un magistrate ar y fainc, gan dybio mae case o remand a fuasai yn ddiameu, a thybiwn ar ei olwg y cawn chware teg ganddo, ac hwyrach iawn am fy ngharcharu ar gam.
There was only one magistrate on the bench. I had assumed that the case would certainly be adjourned, and from his appearance I thought he would treat me fairly, and perhaps even be concerned about the injustice of imprisoning me.
-
Ebai fe, –
He said:
-
"Wel, John Jones, beth wnaeth i chi adael eich gwraig a'ch plant?"
"Well, John Jones, what made you leave your wife and children?"
-
"Nid John Jones ydi fy enw, syr, a fu gen i 'rioed wraig, heb sôn am blant," ebe fi, a dechreuais ddweud pwy oeddwn ac o b'le yr oeddwn yn dyfod, ond stopiwyd fi ar unwaith gan y magistrate.
"My name isn't John Jones, sir, and I've never had a wife, let alone children," I replied. I began to explain who I was and where I had come from, but the magistrate immediately stopped me.
-
Ac ebai fe, —
Then he said:
-
"John, John, yr ydach chi wedi c'ledu mewn drygioni, — yr ydym yn eich 'nabod yn rhy dda," a galwodd ar Mary Jones, a daeth gwraig dlawd yr olwg arni yn mlaen, ac ebai'r magistrate, —
"John, John, you've grown thoroughly hardened in wickedness—we know you far too well." Then he called for Mary Jones, and a poor-looking woman came forward. The magistrate said:
-
"Mary Jones, ai y dyn yna ydi'ch gŵr chi?"
"Mary Jones, is that man your husband?"
-
"Ië, syr," ebai'r wraig,
"Yes, sir," said the woman,
-
"ond y mae o wedi altro yn arw, a mae'n dda iawn gen i weld o. Fu o 'rioed yn gâs wrtho i, a wn i ddim beth naeth iddo ngadel i a'r plant 'rwan er's pedair blynedd. Gybeithio, Mr. Preis, na fyddwch chi ddim yn frwnt wrtho, achos yr ydw i'n siwr y daw o adre at ei deulu 'rwan, on ddowch chi, John bach?"
"but he has changed terribly, and I'm very glad to see him. He's never been unkind to me, and I don't know what made him leave me and the children four years ago. I hope, Mr Price, that you won't be too hard on him, because I'm sure he'll come home to his family now, won't you, dear John?"
-
A thorodd y wraig i grïo.
And the woman burst into tears.
-
Erbyn hyn yr oeddwn yn credu yn sicr fy mod wedi fy witchio neu fy rhoi yn ffynon Elian.
By this time I was quite convinced that I had been bewitched or put under some kind of spell.
-
Ebai'r magistrate, —
The magistrate said:
-
"Wel, John, mi ddylwn eich rhoi yn jail am dri mis, — dyna ddylech chi gael am adael eich teulu. Ond y mae y plwy wedi cadw digon arnynt, ac os ydach chi'n addaw myn'd adre', ac edrach ar ol eich gwraig a'ch plant, mi gewch fyn'd yn rhydd am y tro hwn. Os na wnewch addaw gneud hyny, rhaid i mi roi tri mis i chi. Beth ydach chi'n ddeud, John?"
"Well, John, I ought to send you to prison for three months—that is what you deserve for abandoning your family. But the parish has provided enough support for them, and if you promise to go home and look after your wife and children, I'll let you go free this time. If you won't promise to do that, I'll have to give you three months. What do you say, John?"
-
Meddyliais y munyd hwnw y gallwn ddianc wedi cael fy nhraed yn rhyddion, ac ebe fi, —
At that moment I thought I could escape once I had my feet free, and I replied:
-
"Wel, mi wnaf fy ngoreu i wneud fel yr yd ach chi'n gofyn, syr."
"Well, I'll do my best to do as you ask, sir."
-
" Very good," ebai'r magistrate,
"Very good," said the magistrate,
-
"ond gofalwch na ddowch chi ddim mlaen i eto, neu nid fel hyn y bydd hi arnoch chi. Mae'n biti garw fod crefftwr da fel chi, John, — un sydd yn dad i blant, ac yn d'od o deulu parchus, — wedi gwneud sôn am danoch fel hyn. Bydded hyn yn wers am byth i chwi, John. Mi ellwch fyn'd 'rwan."
"but take care that you don't appear before me again, or things won't go so easily for you next time. It is a great shame that a good workman like you, John—one who is a father of children and comes from a respectable family—should have brought such disgrace upon himself. Let this be a lesson to you for the rest of your life, John. You may go now."
-
Yr oeddwn wedi fy syfrdanu.
I was utterly bewildered.
-
Daeth y wraig ataf i ysgwyd llaw, ac estynais inau fy llaw iddi yn llipa ddigon.
The woman came over to shake my hand, and I held out mine to her, though rather feebly.
-
Yr oedd hi wedi crïo, — o lawenydd, mae'n debyg, — nes oedd yn haner dall.
She had been crying—presumably for joy—until she was almost blind.
-
Tra yr oeddwn yn cerdded wrth ei hochr, heb wybod i b'le yr oeddwn yn myn'd na pheth i neud, edrychai y wraig arnaf bob chwarter munyd, fel pe buasai yn ameu ei llygaid, a siaradai am gant o bethau na wyddwn ddim am danynt.
As I walked beside her, not knowing where I was going or what I was supposed to do, the woman kept looking at me every few moments as though she doubted her own eyes, and talked about a hundred things of which I knew absolutely nothing.
-
Dwedodd fwy nag unwaith fy mod wedi altro yn arw, ond fod yn dda ganddi fy ngweld mor drefnus.
More than once she said that I had changed terribly, but that she was glad to see me looking so respectable.
-
Soniai am y plant, a d'wedai nad arni hi yr oedd yr holl fai pan euthum i ffwrdd, a chraffai i fy wyneb drachefn a thrachefn.
She talked about the children, and said that it had not all been her fault when I went away, while repeatedly studying my face.
-
Ni dd'wedais air wrthi mwy na mudan, ac yr oeddwn yn ofni dyrysu yn fy synwyrau.
I said no more to her than a mute would have done, and I was afraid I was losing my senses.
-
Arweiniodd fi i ryw fuarth lle yr oedd amryw dai, ac yr oedd y cymdogion oll yn sefyll yn y drysau, ac yn gwenu arnaf ac yn fy llongyfarch.
She led me into a sort of courtyard surrounded by several houses. All the neighbours were standing in their doorways, smiling at me and congratulating me.
-
Amlwg ydoedd fod i mi groeso i ddod yn ol.
It was clear that I was very welcome to be back.
-
Ar hyd y ffordd torai y wraig i grïo bob yn ail munyd, ac yn wir yr oedd yn arw iawn gen i drosti.
All along the way the woman burst into tears every other minute, and I truly felt very sorry for her.
-
Chwareuai y ddau fachgen gyda phlant eraill yn y buarth, a phan oeddym yn myn'd i'r tŷ, galwodd Mary Jones arnynt i ddod i weld eu tad.
The two boys were playing with other children in the courtyard, and as we entered the house, Mary Jones called to them to come and see their father.
-
Daeth y plant i mewn, ond ni chymerais sylw o honynt,—yr oedd yn gâs gen i gweld nhw, druain.
The children came in, but I paid no attention to them—I felt so sorry for the poor little things.
-
Parodd hyn i Mary grïo drachefn, a d'wedodd, —
This made Mary cry again, and she said:
-
"Pa'm na ddeudwch chi rwbeth wrth y plant, John, os ydach chi yn cau siarad a fi."
"Why don't you say something to the children, John, if you won't talk to me?"
-
Ni ddoi y plant yn agos ataf, drwy drugaredd.
Thankfully, the children did not come near me.
-
Sylwais fod y tŷ, er yn dlawd, yn hynod o lân, ac wedi gorffen crio, ebai Mary, —
I noticed that, although the house was poor, it was remarkably clean. When she had finished crying, Mary said:
-
"Mi ellwch feddwl, John, y mod i'n dlawd; oes gynoch chi bres i mi nol rhywbeth yn damed i chi?"
"You can imagine, John, that I'm poor. Have you got any money for me to buy you a little something to eat?"
-
Rhoddais iddi ychydig sylltau, ac wedi iddi roi y tegell ar y tân aeth allan, ac yn y funyd dychwelodd â llon'd ei ffedog o bethau o'r siop.
I gave her a few shillings, and after putting the kettle on the fire, she went out. In a moment she returned with her apron full of things from the shop.
-
Wrth ei chwt daeth y dyn a welswn yn y dafarn i mewn.
Just then, the man I had seen in the inn came in.
-
Cofleidiodd a chusanodd y plant, a'r un modd y wraig.
He embraced and kissed the children, and did the same to the woman.
-
Edrychodd Mary fel bydase wedi drysu.
Mary looked as though she had gone out of her mind.
-
Fedra i ddim desgrifio i ti yr olygfa na fy llawenydd.
I cannot describe to you either the scene or my delight.
-
Yr oedd y dyn wedi dod yn ol at ei deulu, ond pan welodd y plismon yn dod ar ei ol i'r dafarn diangodd.
The man had returned to his family, but when he saw the policeman following him to the inn, he had fled.
-
Ar ol deall fy mod i wedi fy nghymeryd yn ei le, a bod y Fainc wedi maddeu i mi ar yr amod i mi edrych ar ol fy nheulu, daeth John yn syth gartre.
Once John understood that I had been mistaken for him, and that the magistrate had let me off on condition that I look after his family, he went straight home.
-
Yr oedd yn edifar iawn ganddo ei fod wedi gadael ei wraig a'i blant.
He was deeply sorry that he had abandoned his wife and children.
-
Cawsom dê yn ddigon cyfforddus efo'n gilydd, ac wedi tipyn o siarad, deallais mai Jac y nghefnder ydoedd.
We had a very pleasant tea together, and after talking for a while, I discovered that he was my cousin Jack.
-
Mi ddois adre yn gynt na chynta gallwn i, ac ar hyd y ffordd yr oeddwn yn edrych ar bawb rhag ofn i mi weld rhwfun arall tebyg i mi.
I came home as quickly as I could, and all along the way I kept looking at everyone, in case I should see someone else who looked like me.
-
Pan ddeudes y stori wrth fy mam, ebe hi,—"
When I told my mother the story, she said:
-
"Ië, siwr, dyna nhw, does dim lwc i'w canlyn nhw."
"Yes, indeed, that's just how they are. There's never any good fortune in having anything to do with them."