Fireside Stories: Doli'r Hafod Lom
-
Doli'r Hafod Lom
Doli of Hafod Lom
-
STRAEON Y PENTAN——————
FIRESIDE STORIES——————
-
Doli yr Hafod Lom
Doli of Hafod Lom
-
"WEL," ebe F'ewyrth Edward, "yr wyt ti erbyn hyn yn ddigon hen i mi sôn wrthot ti am ryw bethau na fuaswn i ddim yn meddwl am sôn am danynt ryw dair neu bedair blynedd yn ol. Yr wyf yn dallt dy fod dithau yn dechreu cerdded y llwybr a gerddais inau, ac a gerddodd agos i bawb o'r hîl ddynol, oddieithr ambell hen lanc a anwyd yn hen lanc. Mae'n debyg (ac edrychodd F'ewyrth arnaf gyda chil ei lygad, a gwridais inau at fôn fy ngwallt) dy fod yn credu yn dy galon na fu neb erioed yn debyg i Mary Jones, y Pant, ac y bydd yn anmhosibl i ti byth fedru caru neb arall. Pwy ond Mary, meddi di, fedrai wneud i ti fethu cysgu a methu bwyta? pwy ond y hi fuasai yn peri i ti fod yn barod i aberthu pobpeth er ei mwyn? a pheri i ti ddymuno fod y peth yma a'r peth arall, ac, yn wir, wneud i ti feddwl y gallet ti farw drosti? Paid a siomi dy hun. Hwyrach yr aiff y clefyd drosodd yn y man, ac daw o atat ti eto ymhen yr rhawg yn nglŷn â rhywun arall, ac na feddyli di y pryd hwnw fwy am Mary Jones, y Pant, nag am Malen, y forwyn yma. Mi wranta dy fod yn meddwl mai dy fodryb Beti oedd yr unig gariad a fu gen i? Dim peryg! Y hi oedd yr olaf, a'r oreu, mi gredaf. Ond am Doli, yr Hafod Lom, yr oeddwn yn mynd i sôn. Wn i ddim yn y byd mawr sut y cafodd y ffarm yr enw Hafod Lom, achos yr oedd hi yn llai llom na'r rhan fwyaf o ffermydd yn y gymdogaeth. Yr oedd y tŷ ar dipyn o godiad tir, ac yn gwynebu haul y bore, ac yr oedd gardd fawr o flaen ei ffrynt. Tu ol i'r tŷ yr oedd buarth mawr, ac ar y naill ochr iddo yr oedd y stablau, a'r tai allan. Yn un pen i'r buarth yr oedd llyn mawr dwfn, a dŵr glân gloew yn rhedeg yn feunyddiol iddo yn un pen, a fflodiart yn y pen arall lle y gellid gollwng y dŵr allan, neu ei storio fel y byddai yr angen. Amlwg ydoedd ar y clawdd cadarn oedd o'i gwmpas fod rhywun yn yr hen amser wedi cymeryd trafferth fawr i wneud y llyn, ac yr oedd yn gaffaeliad mawr i'r tŷ, achos un o'r pethau mwyaf manteisiol yn nglŷn â ffarm, lle mae llawer o benau, ydyw digonedd o ddŵr. pur. Tu ol i'r stablau yr oedd yr ydlan, a thu ol i hono yr oedd llwyn o goed. Gellid myn'd i'r tŷ ddwy ffordd, sef ar hyd y llwybr oedd yn myn'd o'r tyrpeg i'r drws, ac hefyd ar hyd llwybr oedd yn myn'd drwy y llwyn coed, ac heibio ochr bellaf y llyn a thros y fflodiart. Anaml y cerddai neb y llwybr hwn yn y nos, am nad oedd yn ddiberygl syrthio i'r llyn, ac yr oedd y dŵr yn ddwfn iawn, fel y dwedais, yr ochr hono iddo. Yr oedd y tŷ yn fawr a hen ffasiwn, a'r ystafelloedd yn helaeth, ac yn llawn mwy cysurus na'r cyffredin yn y dyddiau hyny. Wel, y mae genyt ddrychfeddwl go lew yrwan, pa fath le oedd yr Hafod Lom. Gair neu ddau, yrwan, fel y dywed y pregethwyr, am y tenant, sef Richard Hughes, fel yr wyf fi yn ei gofio pan oeddwn yn llanc. Dyn main tal oedd Richard, bob amser yn gwisgo côt a gwasgod lwyd, a chlôs a getars o gesimïar goleu. Main oedd Richard o'r top i'r gwaelod. Yr oedd ei goesau yn fain, ac o herwydd nad oeddynt yn neillduol o sythion, a'r clôs â'r gêtars yn ffitio yn dụn, yr oedd cryn oleu rhyngddynt, ac yn gwneud i un feddwl, wrth edrych arnynt, nad gorchwyl hawdd a fuasai i'w perchenog ddal porchell neu lwdn mewn adwy. Yr oedd ei wyneb drwyddo yn fain — ei drwyn yn fain, ei ên yn hirfain, ac o herwydd ei fod wedi colli ei ddanedd, ac yn shafio ei wyneb yn lân oddigerth rhyw fodfedd wrth dop ei glustiau, yr oedd ei safn yn pantio yn o sownd, a'i ên a'i drwyn yn myn'd yn agosach cymdogion bob blwyddyn. Ond yr oedd un peth llydan yn perthyn i Richard, sef ei het, yr hon a fyddai bob amser a choryn isel a chantel mawr iddi, ac yn ymddangos yn rhy helaeth iddo o lawer, ac yn pwyso mor dost ar ei glustiau nes troi hem arnynt. Yr oedd Richard yn cael y gair ei fod yn gyfoethog iawn. Ddymunwn i ddim dweyd ei fod yn gybydd, ond yr wyf yn ddigon siwr ei fod yn hoff o arian, mor hoff fel yr oedd yn anmhosibl ei berswadio ond yn anfynych i ymadael a dim o honynt. Wedi i mi ddweyd fod Richard Hughes yn flaenor Methodus, a fod ganddo dipyn o wich yn ei lais, mi fydd genyt idea go lew eto am denant yr Hafod Lom. Dynes landeg, siriol a charedig, oedd gwraig yr Hafod, sef Dinah Hughes, ond anfynych y byddai yn cael cyfleustra i ddangos ei charedig rwydd ond yn absenoldeb Richard. A byddai y tlodion yn gwybod hyny yn dda, ac yn gwylio yr hen ŵr yn myn'd i'r farchnad neu i'r capel, cyn meddwl am fyn'd i'r Hafod. Yr oedd gwraig yr Hafod gryn lawer ieuengach na'i gŵr. ac yn cadw ei hoed yn well. Doli oedd eu hunig epil, ac yr oedd yn un o'r genethod harddaf a challaf a fu erioed ar ledr. Yr oedd yn dal a lluniaidd, ac yr oedd ganddi wyneb fel pictiwr. Er hyny, yr oedd yn hynod ddifalch, ac yn agos iawn at bawb, fel y dwedir. Ni fyddai fawr wahaniaeth yn ei gwisg a gwisgoedd merched eraill is o lawer eu sefyllfa na hi. Ond dwedai rhai mai ei thad oedd yn gwrthod dillad crand iddi, ac hwyrach fod gwir yn hyny. Mi glywais ei mam yn dweyd un tro y byddai Doli pan yn cael dilledyn newydd yn gorfod ei gadw yn hir cyn ei wisgo; ac yna os llygadai ei thad y dilledyn pan wisgai Doli ef y tro cyntaf, a dechreu tuchan am y gwastraff, dwedai'r fam "Be haru chi, Richard?
WELL," said my Uncle Edward, "you're now old enough for me to talk to you about certain things I wouldn't have thought of discussing with you three or four years ago. I understand that you're beginning to walk the same path that I walked, and that almost everyone in the human race has walked, apart from the occasional lifelong bachelor who was born an old bachelor. I daresay (and my Uncle glanced sideways at me, while I blushed to the roots of my hair) that in your heart you believe nobody has ever been like Mary Jones of the Pant, and that you'll never be able to love anyone else. Who but Mary, you tell yourself, could make you lose sleep and appetite? Who but she could make you ready to sacrifice everything for her sake, wish to become this or that, and, indeed, make you think you could die for her? Don't deceive yourself. Perhaps the fever will pass before long, only to come over you again some time later, in connection with someone else, and then you'll think no more about Mary Jones of the Pant than you do about Malen, the maid here. I suppose you think your Aunt Beti was the only love I ever had? Not a bit of it! She was the last, and, I believe, the best. But it was Doli of Hafod Lom I was going to tell you about. I haven't the faintest idea how the farm came by the name Hafod Lom (Muddy Hafod), because it was less muddy than most farms in the neighbourhood. The house stood on a slight rise, facing the morning sun, with a large garden in front. Behind the house was a spacious farmyard, with the stables and outbuildings on one side. At one end of the yard was a large, deep pond, into which a stream of clear, sparkling water flowed every day at one end. At the other was a sluice gate through which the water could be released or retained as needed. The sturdy embankment surrounding it made it clear that someone, long ago, had gone to considerable trouble to construct the pond. It was a great asset to the house, for one of the greatest advantages a farm with a large number of animals can have is an ample supply of clean water. Behind the stables was the threshing floor, and beyond that a small wood. There were two ways of reaching the house: one along the path leading from the turnpike road to the front door, and the other along a path that ran through the wood, past the far side of the pond and over the sluice gate. Hardly anyone used this latter path at night, since there was a real danger of falling into the pond, which, as I have said, was very deep on that side. The house was large and old-fashioned, with spacious rooms, and considerably more comfortable than most houses in those days. Well, you now have a fairly good picture of what Hafod Lom was like. And now, as the preachers say, a word or two about the tenant, Richard Hughes, as I remember him when I was a young man. Richard was tall and thin, always wearing a grey coat and waistcoat, with light-coloured cashmere trousers and gaiters. He was thin from head to toe. His legs were slender, and since they were not particularly straight, while his trousers and gaiters fitted tightly, there was quite a gap between them. Looking at them, one might have thought it would be no easy task for their owner to catch a piglet or young pig in a narrow lane. His whole face was thin: a narrow nose, a long, pointed chin, and, because he had lost his teeth and shaved his face clean except for about an inch beside the tops of his ears, his mouth was deeply sunken. His chin and nose seemed to grow closer together with every passing year. But Richard did have one broad feature: his hat. It always had a low crown and a wide brim, looked far too large for him, and pressed so heavily on his ears that it bent their edges over. Richard had a reputation for being very wealthy. I wouldn't go so far as to call him a miser, but I'm quite sure he was fond of money, so fond that it was almost impossible to persuade him to part with any of it. Now that I've told you Richard Hughes was a Methodist elder and had a slight squeak in his voice, you'll have a fairly good idea of the tenant of Hafod Lom. The mistress of Hafod, Dinah Hughes, was a handsome, cheerful and kind-hearted woman, but she rarely had the opportunity to show her kindness except when Richard was away. The poor knew this very well, and would watch for the old man to go to market or to chapel before thinking of visiting Hafod. The mistress of Hafod was considerably younger than her husband and had preserved her youth better. Doli was their only child, and one of the prettiest and cleverest girls ever seen in those parts. She was tall and graceful, with a face like a picture. Yet she was remarkably unassuming and friendly towards everyone, as people say. There was little difference between the way she dressed and the clothes worn by other girls of much lower standing. Some said her father refused to buy her fine clothes, and perhaps there was some truth in that. I once heard her mother say that whenever Doli got a new garment, she had to keep it for a long time before wearing it. Then, if her father caught sight of the garment when Doli wore it for the first time and began grumbling about the waste of money, her mother would say, "What's the matter with you, Richard?
-
ond ydi hwn ene gan yr eneth er's gwn i pryd; lle buoch chi tan 'rwan heb ei weled?
Why, the girl has had that for goodness knows how long; where have you been all this time that you haven't seen it?
-
" Yna prynai Dinah Hughes ddilledyn newydd arall i Doli cyffelyb, pan y gwyddai fod Richard wedi colli ymddiried yn ei lygaid. Prun bynag, pa beth bynag a wisgai Doli'r Hafod, yr oedd hi yn moedro penau y rhan fwyaf o lanciau y gymdogaeth; ac yr oedd ambell un, mi gredaf, wedi arall eirio, ddwy linell olaf yn yr hen benill adnabyddus, ac yn eu mwmian rhwng cyrn yr arad, ac yn mohobman –
Then Dinah Hughes would buy Doli another new garment just like it, once she knew Richard had lost confidence in his own eyesight. In any case, whatever Doli of Hafod wore, she turned the heads of most of the young men in the neighbourhood. I believe some of them had even reworded the last two lines of the well-known old song, and could be heard murmuring them between the handles of the plough and everywhere else:
-
Mi af oddi yma i'r Hafod Lom,
I'll go from here to Hafod Lom,
-
Er fod hi'n drom o siwrne;
Though it's a long and tiring journey;
-
O na chawn yno ganu cainc,
If only I could sing a tune there,
-
Ac eistedd ar fainc y simdde!
And sit on the chimney-side bench!
-
Y gwir ydoedd, fod amryw o honom wedi haner dyrysu am Doli, ac nid oedd y ffaith fod ei thad yn gyfoethog, ac mai Doli oedd ei unig epil, yn lleihau dim ar ein clefyd.
The truth was that several of us had fallen more or less head over heels for Doli, and the fact that her father was wealthy and that Doli was his only child did nothing to lessen our infatuation.
-
Frank Price, yı Hendre Fawr, Dafydd Edwards, y saer, a minau oedd yr unig rai a gai fymryn o gefnogaeth gan Doli.
Frank Price of Hendre Fawr, Dafydd Edwards the carpenter, and I were the only ones who received even the slightest encouragement from Doli.
-
Ystyrid teulu yr Hendre yn bobl barchus a lled gefnog, ac yr oeddynt yn Eglwyswyr selog; ac yr oedd Frank yn fachgen digon smart, ond ei fod dipyn yn wyllt a digrefydd Ond mi welais i yn fuan mai Dafydd Edwards, y saer, oedd ffafryn Doli, a mi rois fy nghardiau yn tô, ac yn fwy boddlon am mai Dafydd oedd y dyn, ac nid Frank.
The Hendre family were considered respectable and fairly well-to-do people, and they were devout members of the Church of England. Frank was a fairly smart young man, though a little wild and irreligious. But I soon saw that Doli's favourite was Dafydd Edwards, the carpenter, so I withdrew from the contest, all the more content because it was Dafydd, rather than Frank, who had won her affection.
-
Yr oedd Dafydd yn aelod eglwysig, ac yn fachgen crefyddol a da, ac yn hynod olygus.
Dafydd was a church member, a good and religious young man, and remarkably handsome.
-
Ond dyna oedd yn rhyfedd, er fod Richard Hughes yn flaenor, mab yr Hendre oedd ei ffafryn ef.
But the curious thing was that, although Richard Hughes was a Methodist elder, it was the son of Hendre who was his favourite.
-
Rhoddai bob croesaw i Frank pan ddeuai i'r Hafod; ond ni feiddiai Dafydd, druan, ddangos ei wyneb yno.
He gave Frank a warm welcome whenever he came to Hafod, but poor Dafydd didn't dare show his face there.
-
Beiai pobl y capel yr hen Richard yn fawr am ei fod yn croesawu bachgen digrefydd i geisio am law ei ferch, a dwedent mai ei gariad at arian oedd rheswm am hyny, ac eto credai pawb, yr wyf yn meddwl, fod gwreiddyn y mater gan Richard Hughes, y blaenor.
The chapel-goers strongly condemned old Richard for welcoming an irreligious young man who was courting his daughter. They said his love of money was the reason, though I think everyone believed that the real root of the matter lay in Richard Hughes the Methodist elder.
-
Ond ni allasai holl gyfoeth y byd dynu serch Doli oddiar Dafydd Edwards, a safai yr eneth yn uwch yn syniad y gymydogaeth o'r herwydd.
But all the wealth in the world could not turn Doli's affection away from Dafydd Edwards, and the girl's standing in the eyes of the neighbourhood rose all the higher because of it.
-
Yr oedd yr ystori hyd yr ardal; ac yr oedd yn ddigon gwir, mi gredaf, fod Doli yn cael byd garw efo'i thad, am ei bod yn caru Dafydd, y saer, ac yn gwrthod gwneud dim â mab yr Hendre Fawr.
The story had spread throughout the district, and I believe it was quite true that Doli was having a hard time with her father because she loved Dafydd the carpenter and refused to have anything to do with the son of Hendre Fawr.
-
Pa fodd bynag — a dyma ydi'r stori-un noson yr oedd yr hen Richard wedi myn'd i'r capel, a Dafydd, yn gwybod hyny, wedi myn'd i gyfarfod Doli at benor y llwybr oedd yn myn'd drwy y llwyn coed y soniais am dano.
However, this is how the story goes. One evening, old Richard had gone to chapel, and Dafydd, knowing this, had gone to meet Doli at the end of the path that ran through the little wood I mentioned earlier.
-
Pan fyddai Doli yn myn'd i gyfarfod Dafydd, byddai bob amser yn cymeryd Twm, rhyw gi bach chwerw i'w chanlyn, yr hwn os clywai y mymryn lleiaf o drwst a ddechreuai chwyrnu, ac yna byddai Dafydd a Doli yn gallu ymwahanu cyn i neb eu gweled.
Whenever Doli went to meet Dafydd, she always took Twm along, a fierce little dog that would start growling at the slightest sound. This gave Dafydd and Doli time to separate before anyone could see them.
-
Ond y noson hono yr oedd y ddau wedi ymgolli yn gymaint yn yr ymgom, neu ynte yr oedd y ci yn adnabod sŵn у troed oedd yn dyfod i lawr y ffordd, fel na ddarfu iddynt sylwi fod neb yn agosau nes oedd yr hen Richard yn eu hymyl.
But that evening the two of them were so absorbed in conversation—or perhaps the dog recognised the sound of the approaching footsteps on the road—that they failed to notice anyone coming until old Richard was right beside them.
-
Yr oedd yn noswaith lled dywell, ond can gynted ag y deallodd Doli mai ei thad oedd yno, rhedodd drwy y coed, ac ebe'r hen ŵr —
It was a rather dark evening, but as soon as Doli realised that it was her father standing there, she ran off through the wood, and the old man said:
-
"Dafydd, wyt ti yma eto? Sawl gwaith yr ydw i wedi dweyd wrthot ti am beidio d'od ar ol yr eneth yma? Waeth i ti un gair na chant, chei di byth moni tra bydd fy llygaid i'n agored."
"Dafydd, here you are again? How many times have I told you not to come after this girl? You might as well say a hundred words as one: you'll never have her while my eyes are open."
-
Y foment hono clywodd y ddau ysgrech dorcalonus ac fe ddarfu i'r ddau adnabod y llais.
At that moment, the two men heard a heart-rending scream, and both recognised the voice.
-
Rhuthrodd Dafydd ar hyd y llwybr tua'r llyn, a'r hen ŵr yn ei ddilyn oreu y gallai.
Dafydd rushed along the path towards the pond, with the old man following as fast as he could.
-
Yr oedd y noson yn dywell, fel y dywedais, ond tybiodd Dafydd, er ei fod yn gynhyrfus, ac ymron allan o'i bwyll fod rhywun wedi croesi y llwybr cyn iddo gyrhaedd y llyn.
The night was dark, as I have said, but Dafydd thought, despite his agitation and almost frantic state, that someone had crossed the path before he reached the pond.
-
Yr oedd Dafydd yn nofiwr diail, ac fel dyn gwallgof, neidiodd i'r llyn, ac ymbalfalai yn y tywyllwch am Doli, ond i ddim pwrpas am fynud neu ddau.
Dafydd was an excellent swimmer, and like a madman he plunged into the pond, groping about in the darkness for Doli, but without success for a minute or two.
-
Yr oedd yr ysgrech wedi cyrhaedd yr ystablau lle yr oedd y llanciau yn porthi yr anifeiliaid, ac mewn ychydig funudau yr oedd y gweision oll gyda'u lanterni ar ymyl y llyn, ac fel y dwedodd un o'r llanciau wrthyf wedyn — pan daflodd y lanterni eu goleu ar y llyn, y peth cyntaf a welodd oedd Dafydd wedi cael gafael yn Doli ac yn dal ei phen uwchlaw'r dŵr, a chlywodd ei geiriau olaf—
The scream had reached the stables, where the young farmhands were feeding the animals, and within a few minutes all the servants were gathered at the edge of the pond with their lanterns. As one of the young men told me afterwards, when the lanterns cast their light across the water, the first thing he saw was Dafydd holding Doli, with her head above the surface. He heard her final words:
-
"O Dafydd bach, yr ydw i'n boddi."
"Oh, dear Dafydd, I'm drowning."
-
Dygwyd Doli i'r lan a chariwyd hi i'r tŷ.
Doli was brought ashore and carried into the house.
-
Nid oedd wedi marw, ond o herwydd anwybodaeth pobl sut i drin rhai yn y cyflwr hwnw, bu Doli druan farw ymhen ychydig fynudau.
She was not dead, but because people did not know how to treat someone in that condition, poor Doli died a few minutes later.
-
Pan oedd yn marw yr oedd yn sefyll uwch ei phen ei thad a'i mam, Dafydd, y saer, a mab yr Hendre fawr.
As she lay dying, her father and mother, Dafydd the carpenter, and the son of Hendre Fawr were standing around her.
-
Pa fodd y daeth Frank yno ar y fath adeg ni wybu neb byth, ac nid wyf finau yn dewis dweud fy opiniwn.
No one ever discovered how Frank came to be there at such a moment, and I prefer not to give my opinion.
-
Achosodd yr amgylchiad lawer o boen a siarad yn y gymydogaeth.
The incident caused much sorrow and considerable discussion throughout the neighbourhood.
-
Yr oeddwn er's tro byd yn ymwelydd mynych a'r Hafod Lom, ac yn bur ffryndiol â Doli ac â'i thad â'i mam.
I had been a frequent visitor to Hafod Lom for a long time, and was on very friendly terms with Doli and her parents.
-
Euthum yno dranoeth ar ol y ddamwain, ac ni welais yn fy mywyd y fath ofid a thorcalon.
I went there the day after the tragedy, and never in my life had I witnessed such grief and heartbreak.
-
Cyn i mi ymadael ebe'r hen Wr, Richard Hughes, wrthyf —
Before I left, the old man, Richard Hughes, said to me:
-
"Edward, wnei di ofyn i Dafydd, y saer, ddod i'r claddu?"
"Edward, will you ask Dafydd the carpenter to come to the funeral?"
-
Synais ei glywed yn dweyd hyny wrth gofio am ei elyniaeth at Dafydd, a da oedd genyf gario y genadwri.
I was astonished to hear him say this, remembering his hostility towards Dafydd, and I was glad to deliver the message.
-
Yr oedd yr holl ardal ymron wedi dyfod i gladdu Doli, ac yn ol yr arferiad y pryd hwnw ar gladdedigaeth, yr oedd yn yr Hafod gryn fwyta ac yfed.
Almost the entire neighbourhood had come to bury Doli, and, in keeping with the custom at funerals in those days, there was a good deal of eating and drinking at Hafod.
-
Drwy fy mod yn dipyn o ffafryn yn yr Hafod yr oeddwn yno yn un o'r rhai cyntaf ddiwrnod y claddu.
Since I was something of a favourite at Hafod, I was among the first to arrive on the day of the funeral.
-
Ychydig cyn yr amser yr oedd yn rhaid "codi'r corff," a chychwyn tua'r fynwent, yr oeddwn gyda Richard a Dinah Hughes mewn ystafell ar ein penau ein hunain cheisiwn eu cysuro oreu y gallwn, ond yr oedd eu galar, fel y gallet ti feddwl, yn arteithiol.
A little before the time came to "raise the body" and set off for the churchyard, I was alone with Richard and Dinah Hughes in a room. I tried to comfort them as best I could, but their grief, as you can imagine, was agonising.
-
Edrychodd Richard drwy y ffenestr i'r buarth ar y dyrfa fawr oedd wedi dyfod i gladdu Doli, ac ebe fe wrthyf —
Richard looked through the window into the farmyard at the great crowd that had come to bury Doli, and said to me:
-
"Ai nid Dafydd ydi hwn acw sydd ar ei ben ei hun yn mhen draw y buarth?"
"Isn't that Dafydd over there, standing alone at the far end of the yard?"
-
Dwedais inau mae ïe.
I told him that it was.
-
"Gofyn iddo ddod yma," ebe fe.
"Ask him to come here," he said.
-
Euthum ar unwaith a dygais ef i mewn.
I went at once and brought him inside.
-
Nid anghofiaf yr olygfa byth.
I shall never forget the scene.
-
Pan ddaeth Dafydd i mewn torodd yr hen wr i lawr yn lân, ac ni fedrodd ddweyd gair am yr rhawg.
When Dafydd came in, the old man completely broke down and was unable to speak for some time.
-
Wedi i'r gafod fyn'd drosodd, ebe fe, — ac y mae ei eiriau yn swnio yn fy nghlustiau y fynud hon —
When the storm had passed, he said—and his words are still ringing in my ears at this very moment—
-
"Dafydd, O! Dafydd, mae Duw wedi fy nharo — wedi fy nharo rhag fy namio i! Y ti oedd pia Doli — ïe, y ti oedd ei phia hi, ac wrth dreio dy robio di o honi mi collais hi am byth! Dafydd," — a gosododd yr hen ŵr ei ben ar ysgwydd lydan Dafydd —
"Dafydd! Oh, Dafydd! God has struck me down—struck me to save me from my own wrongdoing! Doli belonged to you—yes, she was yours, and in trying to rob you of her, I lost her for ever! Dafydd!" And the old man laid his head on Dafydd's broad shoulder.
-
"y mai i i gyd oedd o, a mae Duw wedi fy nharo!"
"It was all my doing, and God has struck me down!"
-
ac wylodd yn hidl.
And he wept bitterly.
-
"Dafydd," ychwanegodd,
"Dafydd," he added,
-
"gaf i bwyso ar dy fraich di ar y ffordd i'r fynwent?"
"may I lean on your arm on the way to the churchyard?"
-
Dwedodd Dafydd y cwbl drwy wasgu llaw yr hen ŵr gofidus, a synodd pawb weled Richard Hughes yn cerdded yn mraich Dafydd, y saer, tua'r fynwent.
Dafydd answered everything by pressing the hand of the grief-stricken old man, and everyone was astonished to see Richard Hughes walking arm in arm with Dafydd the carpenter towards the churchyard.
-
Bu llawer o siarad ac amgrymu dan eu danedd ymhlith y cymdogion ar ol hyn.
There was much whispered talk and speculation among the neighbours after that.
-
Pa un ai yn ddamweiniol ai fel arall y cyfarfyddodd Doli a'i diwedd, ni wybu neb byth.
No one ever discovered whether Doli had met her end by accident or otherwise.
-
Yn fuan ar ol hyn ymunodd mab yr Hendre Fawr â'r fyddin, a lladdwyd ef yn India'r Dwyrain.
Soon afterwards, the son of Hendre Fawr joined the army, and was killed in the East Indies.
-
Ni bu Richard Hughes byth yr un dyn.
Richard Hughes was never the same man again.
-
Fu o ddim byw yn hir ar ol hyn; ond tra y bu o byw, 'doedd dim arwydd arno ei fod yn caru arian, a mi ddiweddodd ei oes yn un o'r dynion mwyaf cymwynasgar a llaw agored yn y wlad.
He did not live long after this; but for as long as he did live, there was no sign that he cared for money, and he ended his days as one of the most charitable and generous men in the district.
-
Yr oedd pobl yn dweyd fod Richard Hughes, yr Hafod Lom, wedi gadael yn ei ewyllys olaf swm go dda o arian i Dafydd, y saer, ond wn i ddim oedd hyny yn wir.
People said that Richard Hughes of Hafod Lom had left a substantial sum of money to Dafydd the carpenter in his will, but I do not know whether that was true.
-
Ond mi wn hyn, na ddaru Dafydd byth garu neb arall ar ol colli Doli — mi fu farw yn hen lanc ac yn dda arno," ebe Fewyrth Edward.
But I do know this: after losing Doli, Dafydd never loved anyone else. He died an old bachelor, and a prosperous one," said my Uncle Edward.