Free: every course and deck, with a confirmed account. Join free Still being built · Report a problem

Huw Huws, or The Welsh Labourer: III

  1. III

    III

  2. Gan mai nid ysgrifenu bywgraffiad yr ydym, ni fydd i ni ddylyn hanes William Huws yn fanwl, gam a cham.

    Since we are not writing a biography, we shall not follow William Huws's history in detail, step by step.

  3. Ac heblaw hyny, rhaid i ni ddychwelyd yn fuan at brif wrthddrych ein chwedl, sef Huw Huws.

    Besides, we must soon return to the principal subject of our story, namely Huw Huws.

  4. Bu William am wythnosau lawer heb un math o waith.

    William was without any kind of work for many weeks.

  5. Gwnaeth ei frawd bobpeth a allai ef drosto; ond nid oedd ei allu eithr ychydig; a diau y buasai yn haws i William gael ei gyflogi mewn màn neu ddau, oni bai mai Owen oedd yn ei gymeradwyo .

    His brother did everything he could for him; but his influence was very limited; and William would undoubtedly have found it easier to get employment in one or two places had it not been Owen who recommended him.

  6. Darostyngwyd William a'i deulu i dlodi a chyfyngder.

    William and his family were reduced to poverty and hardship.

  7. Yr oedd eu harian wedi myned i gyd, a hwythau heb fodd i gael ymborth yn hwy, heb geisio coel, ac at bwy yr oeddynt i fyned i ymofyn am hyny?

    Their money was all gone, and they had no means of obtaining food any longer without asking for credit; and to whom could they turn to ask for it?

  8. Aeth Mrs.

    Mrs.

  9. Owen Huws hefyd yn fwy sarug, am nad oeddynt mwyach yn gallu talu am eu dwy ystafell.

    Owen Huws also became more ill-tempered, because they could no longer afford to pay for their two rooms.

  10. I ychwanegu at eu hadfyd, dechreuodd Mari fyned yn glaf;—yr oedd yr awyr afiach, a'r gwahaniaeth bwyd, a phrinder hyd yn nod o hwnw fel yr oedd, yn dylanwadu yn anffodus ar ei chyfansoddiad.

    To add to their troubles, Mari began to fall ill; the unhealthy air, the change in diet, and the scarcity even of what little food they had, were having an unfortunate effect on her constitution.

  11. Ac fe ddichon fod ei hiraeth am Gymru hefyd yn ychwanegu at y pethau eraill.

    And perhaps her longing for Wales was also adding to her other troubles.

  12. Collodd ei sirioldeb; aeth yn bruddglwyfus, ac yr oedd arwyddion o nychdod sicr arni.

    She lost her cheerfulness, became melancholy, and showed unmistakable signs of declining health.

  13. Dechreuodd bochau Lowri a Sarah hefyd lwydo, a'u llygaid bantio; a gwelid arwyddion o dristwch mynych ar eu gwynebau ieuainc a hawddgar.

    Lowri and Sarah's cheeks also began to grow pale, and their eyes to become sunken; signs of frequent sadness could be seen on their young and pretty faces.

  14. Ac, yn raddol—yr hyn a ofidiodd fwy ar galon Marged Huws na'i holl adfyd ynghyd—fe ddechreuodd Lowri duchan a grwgnach.

    And gradually—something that grieved Marged Huws more deeply than all their other hardships combined—Lowri began to sulk and grumble.

  15. Ond, hyd yn hyn, nid oedd y peth wedi dyfod yn ddigon pwysig i Marged ei ystyried yn werth tristau ei gwr trwy ei fynegi iddo; ond penderfynodd wylio yn ddyfal ar ei hail eneth, gan geisio atal y nwyd peryglus rhag cael meistrolaeth arni.

    But so far, the matter had not become serious enough for Marged to think it worth distressing her husband by telling him; nevertheless, she resolved to keep a close watch on her second daughter, and try to prevent the dangerous tendency from gaining control of her.

  16. O'r diwedd, cafodd William Huws waith llafurwr mewn haiarn-weithfa fawr.

    At last, William Huws found work as a labourer in a large ironworks.

  17. Daeth pelydr o obaith adnewyddol i'w feddwl, a dychwelodd i'w lety y prydnhawn hwnw yn siriolach nag y bu er's llawer o wythnosau.

    A fresh ray of hope entered his mind, and he returned to his lodgings that afternoon in better spirits than he had been for many weeks.

  18. Siaradodd yn obeithgar, gyda'i wraig a'i blant, a dechreuodd y cyfan, oddigerth Mari, bortreadu dyfodiant dedwydd iddynt oll.

    He spoke hopefully with his wife and children, and all of them, except Mari, began to picture a happy future for the whole family.

  19. "Cewch chwi—Lowri a Sarah"—ebe'r fam,

    "You shall both—Lowri and Sarah," said their mother,

  20. "fyn'd i'r ysgol yn fuan bellach; a chdithau, Mari, ti gei chware tegi fendio, a dwad yn ddigon cref i gael lle da i weini. Cod dy galon ngeneth i—mae dy dad yn sicr o enill digon o arian i ti gael bwyd da i gryffhau."

    "go to school before long; and you, Mari, shall have plenty of time to play and get better, and grow strong enough to find a good place in domestic service. Cheer up, my girl—your father is sure to earn enough money to provide you with good food and make you strong."

  21. Fflachiodd sirioldeb yn llygaid y ddwy eneth leiaf; ond ni welwyd un arwydd o lawenydd ar wedd Mari, ac ni wnaeth ddim ond cusanu ei mam, a gollwng ochenaid, wrth glywed y dyfodiant yn cael ei liwio felly a lliwiau gobaith a chysur.

    A spark of happiness lit up the eyes of the two younger girls; but no sign of joy appeared on Mari's face. She did nothing but kiss her mother and heave a sigh as she listened to their future being painted in such hopeful and comforting colours.

  22. Yn awr, ni a adawn William Huws, ei wraig, a'i dair geneth, yn Llynlleifiad, gan addaw gadael i'r darllenydd wybod eto, rhagllaw, eu helyntion yno.

    And now we shall leave William Huws, his wife, and his three daughters in Manchester, promising to acquaint the reader with their fortunes there again at a later time.

  23. PENNOD V.

    CHAPTER V.

  24. "Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus. "

    "A prudent servant shall have rule over a son who brings shame."

  25. Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith.

    A boy is known by his deeds, whether his conduct be pure and upright.

  26. " —SOLOMON

    " —SOLOMON

  27. Bu y Parch.

    The Reverend

  28. Mr.

    Mr.

  29. Lloyd cystal a'i air.

    Lloyd was as good as his word.

  30. Cymerodd ofal dyfal am iechyd a chysur corfforol, yn gystal a diwylliad meddyliol, a chynydd crefyddol ei was, Huw Huws.

    He took diligent care of his servant Huw Huws's physical health and comfort, as well as his intellectual development and religious growth.

  31. Ac yr oedd Huw, yntau, yn ad-dalu yn dda i'w feistr am ei holl ofal a'i garedigrwydd, trwy ffyddlondeb diwyrni, fel gwas, a thrwy wneud y defnydd goreu o'i oriau segur i ddiwyllio ei feddwl.

    And Huw, for his part, repaid his master well for all his care and kindness, through his unwavering faithfulness as a servant, and by making the best possible use of his leisure hours to cultivate his mind.

  32. Yr oedd ei gynydd anianyddol a meddyliol yn gyflym ac amlwg.

    His physical and intellectual development was rapid and remarkable.

  33. Tyfodd yn las-lanc cryf a gweithgar; ond yr oedd llawer o wahaniaeth rhyngddo ef a llafnau o'r un wedd ag yntau, yn gymaint ag fod trallodion blaenorol wedi dwyseiddio llawer ar ei feddwl, ei efrydiaethau noswyliol wedi gosod argraff o feddylgarwch ac uchafiaeth ar ei feddwl a'i ymadroddion, a'i ymlyniad diffuant wrth arferion crefyddol wedi ei nodi yn wrthddrych cellwair bechgyn anystyriol, a pharch a hoffder pob crefyddwr a'i hadwaenai.

    He grew into a strong and active young man; but there was a great difference between him and many lads of similar appearance and age. His earlier hardships had greatly deepened his mind, his nightly studies had imparted an air of thoughtfulness and distinction to his mind and speech, and his sincere attachment to religious observances had made him an object of ridicule to thoughtless boys, but of respect and affection to every religious person who knew him.

  34. Yr oedd Mr.

    Mr.

  35. Lloyd yn dal ychydig o dir, a daeth Huw yn wir wasanaethgar iddo fel llafurwr.

    Lloyd owned a little land, and Huw became genuinely useful to him as a labourer.

  36. Teimlai fod llafur yn fraint yn gystal ag yn ddyledswydd, ac nid yn orthrech a thrais.

    He felt that labour was a privilege as well as a duty, and not a burden imposed by oppression and force.

  37. Nid oedd ef, fel llawer o'i gyfoedion a'i gydwladwyr, yn ystyried bod yn llafurwr yn un sarhad na chaethiwed, nac fod ei waith yn gorfod llafurio am ei gynhaliaeth yn ddiraddiad o angenrheidrwydd, eithr teimlai fod llafurio yn ffyddlawn, yn ei alluogi i fod yn ddefnyddiol i eraill yn gystal ag iddo ei hun,—yn foddion i ddysgyblu ei gymeriad ei hun—cyflawni dyben bywyd, a dwyn yn mlaen amcanion ei Greawdwr.

    Unlike many of his contemporaries and fellow countrymen, he did not regard being a labourer as an insult or a form of slavery, nor did he consider that having to work for his own livelihood was necessarily degrading. Rather, he felt that working faithfully enabled him to be useful to others as well as to himself; that it was a means of disciplining his own character, fulfilling life's purpose, and advancing the designs of his Creator.

  38. Nid ydym yn meddwl fod yr ystyriaethau hyn wedi cael eu ffurfio yn rheolaidd, yn gyfundraeth drefnus a chaboledig, gan Huw Huws.

    We do not think that Huw Huws had yet formulated these reflections into a regular, systematic, and polished philosophy.

  39. Yr oedd yn rhy ieuanc i hyny, efallai.

    Perhaps he was too young for that.

  40. Ond, er hyny, yr oeddynt yn gwreiddio yn ei feddwl, ac yn dylanwadu yn ddirgelaidd ar ei fyfyrdodau a'i fuchedd.

    Nevertheless, they were taking root in his mind and secretly influencing his thoughts and conduct.

  41. Buasai yn synu ei hunan eu gweled yn ysgrifenedig, y pryd hwnw; ond buasai yn teimlo, ar yr un pryd, mai dyna ei syniadau ef.

    He would have been surprised to see them written down at that time; yet, at the same time, he would have felt that they expressed his own convictions.

  42. Gyda 'i feddwl yn yr agwedd ddymunol yma y parhaodd i lafurio dros ei feistr a throsto ei hun, gan gadw ei feddwl bob amser yn hyderus ar y dyfodiant.

    With his mind in this happy frame, he continued to work for his master and for himself, always looking forward to the future with confidence.

  43. Byddai yn derbyn llythyr, yn awr ac eilwaith, oddiwrth ei rieni; ac er nad oeddynt hwy yn mynegu iddo eu holl helyntion; eto, efe a deimlai, wrth ddarllen eu llythyrau, eu bod wedi cyfarfod ag amryw drallodion, er eu bod yn ceisio eu celu oddiwrtho ef.

    From time to time he would receive a letter from his parents; and although they did not tell him all their troubles, he could nevertheless sense, as he read their letters, that they had encountered various hardships, even though they tried to conceal them from him.

  44. Cafodd awgrymiad aneglur am ddadfeiliad iechyd ei chwaer, Mari, a gofidiai yn ei galon nad oedd ef yn ddigon o ddyn i allu ei chadw hi, a'r rhelyw o'r teulu, yn awyr iach Cymru.

    He received a vague hint that his sister Mari's health was failing, and it grieved him deeply that he was not yet sufficiently established to be able to keep her, and the rest of the family, in the fresh air of Wales.

  45. Ond bachgen oedd eto; ac y mae cyflogau y cyfryw lafurwyr Cymreig yn fychan hyd yn nod pan lafuriant dan y meistriaid goreu.

    But he was still only a boy; and the wages of Welsh labourers of this kind are small, even when they work for the best of masters.

  46. Wedi bod yn ngwasanaeth Mr.

    After having been in the service of Mr.

  47. Lloyd am ddwy flynedd, daeth cyfnewidiad drachefn ar ei amgylchiadau.

    Lloyd for two years, another change came about in his circumstances.

  48. Eglwys led dlawd oedd gan Mr.

    Mr. Lloyd had a rather poor congregation.

  49. Lloyd; ond yr oedd ei dduwioldeb, ei weithgarwch, ei wybodaeth, a'i ddawn, yn ei gyfaddasu i gymeryd gofal o Winllan lawer eangach, lle y gallai wneud mwy o'i ol ar y byd.

    Lloyd; but his piety, industry, knowledge, and gifts fitted him to take charge of a much larger vineyard, where he could make a greater mark upon the world.

  50. Ac yn mhen dwy flynedd ar ol dyfodiad Huw Huws ato fel gwas, cafodd gynyg ar fugeiliaeth Eglwys lawer mwy, mewn tref fawr, boblogaidd, lle y gallai weithredu ei holl alluoedd mewn maes digon i'w gyraeddiadau uchaf.

    And two years after Huw Huws had entered his service, he was offered the pastorate of a much larger church in a large, thriving town, where he could exercise all his abilities in a field worthy of his highest attainments.

  51. Credodd y gweinidog mai Rhagluniaeth oedd yn nodi maes iddo fod yn fwy defnyddiol, a phenderfynodd ymadael o Fon; a chan nad oedd ganddo waith mwyach i Huw Huws, aeth at Mr.

    The minister believed that Providence was pointing him towards a field in which he could be of greater service, and he decided to leave Anglesey. Since he no longer had any work for Huw Huws, he went to Mr.

  52. Owen, Plas Uchaf, amaethwr boneddigaidd, cyfoethog, dylanwadol, ac uchel ei gymeriad yn y wlad, i ofyn iddo gymeryd Huw yn was.

    Owen of Plas Uchaf, a gentlemanly, wealthy, and influential farmer, highly respected in the district, to ask him to take Huw into his service.

  53. Dywedodd Mr.

    Mr.

  54. Owen ei fod ef wedi siarad gyda dyn arall, ac wedi addaw ei gyfarfod yn y Ffair Pen Tymhor, i geisio ei gyflogi; ac ychwanegodd—

    Owen said that he had spoken to another man and had arranged to meet him at the Pen Tymhor Fair to discuss employing him; and he added—

  55. "Os byddaf yn gweled y dyn hwnw yn ateb fy nyben, ac yn rhesymol yn ei ofynion; a'i gymeriad yn dda, ni's gallaf ei droi ymaith ar ol siarad âg ef; ond os na fydd yn union wrth fy modd, mi a gyflogaf Huw. Gan hyny, gwell i chwi, Mr. Lloyd, ddweyd wrtho am fy nghyfarfod yn y ffair fawr."

    "If I find that this man meets my requirements, is reasonable in his demands, and has a good character, I cannot turn him away after having spoken with him; but if he is not quite to my liking, I shall employ Huw. Therefore, Mr. Lloyd, you had better tell him to meet me at the great fair."

  56. PENNOD VI.

    CHAPTER VI.

  57. Gwagedd o wagedd: * * gwagedd yw'r cwbl. —SOLOMON.

    Vanity of vanities: all is vanity. —SOLOMON.

  58. FFAIR PEN TYMHOR a ddaeth, a chyfeiriodd Huw Huws ei gamrau tua Llan, am y tro cyntaf erioed ar adeg ffair fawr—wedi ymwisgo yn daclus, ond syml.

    THE PEN TYMHOR FAIR arrived, and Huw Huws set out towards the town, for the first time in his life attending a great fair—neatly but plainly dressed.

  59. Yr oedd yr heolydd yn frithion gan fynychwyr ffeiriau, yn myned, fel yntau, i Lan; ond yr oedd yn amheus a oeddynt hwy oll yn myned gydag unrhyw neges bennodol, fel efe.

    The roads were thronged with fairgoers, all making their way to the town like himself; but he doubted whether they were all going there on any particular business, as he was.

  60. Bu ef yno o'r blaen, dros ei hen feistr, mewn dwy ffair led fechan; ond nid oedd yn gweled nemawr neb, yn y rhai hyny, heblaw pobl a'u bryd ar fasnach o ryw fath; ond y tro hwn, sylwai ar niferoedd yn cyrchu yno na's gallai fod ganddynt un neges yn y byd; a chofiodd am geryddon Mr.

    He had been there before on behalf of his former master, at two relatively small fairs; but at those he had seen hardly anyone except people intent on some kind of business. This time, however, he noticed crowds making their way there who could not possibly have any business to attend to; and he remembered Mr.

  61. Lloyd, yn un o'i bregethau, ar Ffair y Gwagedd, a'r temtasiynau a amgylchynant ieuenctyd di-amcan yn y cyfryw ffeiriau.

    Lloyd's warnings in one of his sermons about Vanity Fair and the temptations that surround aimless young people at such gatherings.

  62. Yr oedd y ffair yn ddigon i syfrdanu un annghyfnefin â'r cyfryw olygfa, ac yn ddigon i ofidio calon pob un a chanddo barch at rinwedd a moesoldeb.

    The fair was enough to astonish anyone unfamiliar with such a spectacle, and enough to sadden the heart of anyone who respected virtue and morality.

  63. Mewn un heol, yr oedd nifer o feirch yn cael eu rhedeg, er mwyn tynu sylw'r edrychwyr, a sylwodd Huw fod amryw o'r gyrwyr yn arfer llawer o greulondeb at yr anifeiliaid er mwyn cael ganddynt wneud pranciau, a dangos hoender, a rhedeg yn gyflym.

    In one street, a number of horses were being raced to attract the attention of spectators. Huw noticed that several of the drivers treated the animals with great cruelty, trying to make them perform tricks, show off their spirit, and run fast.

  64. Cofiodd glywed am ryw bendefig yn areithio yn y Senedd, ychydig amser cyn hyny, i geisio cael cyfraith lemach i gospi creulondeb at anifeiliaid; a thybiodd Huw, os oedd creulondeb at anifeiliaid yn bod, ag y dylid ei gospi, fod rhedeg meirch, a chesig, a merlynod, ar hyd heol faith, am lawer o oriau, gan eu chwipio a'u hysparduno yn gïaidd, yn haeddu cosp; ac eto, sylwodd ar rai o amaethwyr parchusaf y wlad, ac amryw o honynt yn broffeswyr crefydd, ac yn cael eu hystyried yn bobl dduwiol, yn syllu ar yr olygfa gyda dyddordeb—rhai o honynt yn syllu yn graff gyda llygaid beirn- iadol prynwyr, ac eraill gyda golygon boddus, neu dremiadau pryderus, gwerthwyr, heb neb yn dangos gresyndod, nac yn cynyg cerydd, i'r creulondeb, na'r anweddeidd-dra, na'r tyngu, na'r rhegu, na'r taeru, a'r gwrth-daeru, oedd yn hynodi ffair y meirch.

    He remembered hearing of a nobleman speaking in Parliament shortly before, in an effort to secure a stricter law to punish cruelty to animals. Huw thought that, if cruelty to animals existed and deserved punishment, then racing stallions, mares, and ponies along a long street for many hours, while whipping and cruelly spurring them on, certainly deserved punishment. Yet he noticed some of the most respected farmers in the district watching the spectacle with interest, several of them professing religion and regarded as godly people. Some watched intently with the critical eyes of buyers, while others looked on with the satisfaction or anxious expressions of sellers. Not one showed any compassion or offered a word of rebuke for the cruelty, the indecency, the swearing, the cursing, the boasting, and the arguing and contradicting that characterised the horse fair.

  65. Yr ydym yn teimlo, yn awr, ein bod yn sangu ar dir cynil.

    We feel that we are now treading on delicate ground.

  66. Ond, a gawn ni ofyn i'r beirniad a'r darllenydd ystyried ein darluniad anmherffaith o Ffair Pen Tymhor, fel y gwelsom ni hi fwy nag unwaith, fel cais at gofnodi pethau yn ddiderbyn-wyneb.

    But may we ask the critic and the reader to regard our imperfect description of the Pen Tymhor Fair, which we have witnessed more than once, as an attempt to record things impartially and without favour?

  67. Dichon y brifwn deimladau rhai; ond nid oes mo'r help—ar y Ffair , ac ar y bobl , y mae'r bai, ac nid arnom ni am ddweyd y gwir.

    We may offend the feelings of some; but it cannot be helped—the fault lies with the fair and the people, not with us for telling the truth.

  68. Os profir ein bod yn cofnodi ac yn darlunio yn annghywir, ni a ymfoddlonwn i dderbyn cerydd; ond os canfyddir ein bod yn tynu darlun cywir, ymfoddloned yr euogion i'w tynged.

    If it can be proved that our account and description are inaccurate, we shall gladly accept criticism; but if our portrayal is found to be truthful, let those who are guilty accept their fate.

  69. Aeth Huw Huws o heol ffair y meirch i fan arall yn y dref, a gwelodd dri neu bedwar o fechgyn o'r un ardal ag yntau, yn sefyll ar ben heol, a gofynodd iddynt,

    Huw Huws left the street where the horse fair was being held and went to another part of the town. There he saw three or four lads from his own district standing at the end of a street, and asked them,

  70. " A welodd un o honoch chwi mo Mr. Owens, Plas Uchaf?"

    "Have any of you seen Mr. Owen of Plas Uchaf?"

  71. "Naddo," attebodd un.

    "No," replied one of them.

  72. "Beth sy arnat ti eisio gyno fo?"

    "What do you want with him?"

  73. "Wel, y fo ddwedodd wrthyf am ei gyfarfod yn y ffair."

    "Well, he told me to meet him at the fair."

  74. "Wyt ti yn meddwl treio cyflogi hefo fo?"

    "Are you thinking of trying to get a job with him?"

  75. "Os gallaf."

    "If I can."

  76. "Ha! 'ngwas I—cymer di ofal rwan na weliff Sion Parri'r Waen monot ti, ar ol bod hefo Mr. Owen!"

    "Ha! My boy, you'd better make sure Sion Parri of the Waen doesn't catch sight of you after you've been with Mr. Owen!"

  77. "Pa'm? 'Toes a wnelof fi ddim byd â Sion Parri."

    "Why? I've got nothing to do with Sion Parri."

  78. "Wel, mae Sion am dreio cyflogi hefo fo heiddiw; ond os ch'di geiff y lle, a Sion wedi meddwl am dano fo, gwae dy gwman di!"

    "Well, Sion is going to try for the job with him today; but if you get the position, when Sion has set his heart on it, you'll be in for trouble!"

  79. "Ie'n wir," ebe un arall;

    "That's quite true," said another;

  80. "achos 'r ydw i'n cofio 'i weled o'n misio cyflogi i le go dda ddwy flynedd i rwan; ac aeth i ddial 'i lid ar y llanc oedd wedi cael y lle. Aeth yn gwffio dychrynllyd rhyngu nhw, a bu agos i Sion a lladd y llanc hwnw."

    "because I remember seeing him fail to get a fairly good job two years ago; and he went and took his revenge on the young fellow who had got the position. A terrible fight broke out between them, and Sion very nearly killed that young man."

  81. "Wel, ni roddaf fi ddim achos iddo fo gwffio hefo mi, o ran hyny mae'n rhaid cael dau i ffraeo a chwffio."

    "Well, I shan't give him any reason to fight with me. After all, it takes two to quarrel and fight."

  82. "Purion, was—purion. Ond hwda, ddoi di am haner peint?--mae 'na gwrw da ofnadwy yn y White Lion, a lot o hogia' merchaid. Tyr'd."

    "Quite right, lad—quite right. But come along, will you have half a pint? There's some excellent beer at the White Lion, and plenty of lads and girls. Come on."

  83. "Na ddof Jack; nid wyf fi'n arfer dim diod feddwol."

    "No, I won't come, Jack; I'm not in the habit of drinking intoxicating liquor."

  84. "Oes gen't ti ddim pres? Twt lol wirion! 'Twyt ti'n amser yn gwario dim, ac mae'n rhaid nad wyt ddim ar lawr am bres. Ond os na ddoist ti a dim cregin heiddiw hefo'ch di, mi gei haner peint gin I."

    "Haven't you got any money? Nonsense, what rubbish! You never spend anything, so you must have plenty of money. But even if you haven't brought a penny with you today, I'll stand you half a pint."

  85. "Diolch i ti'r un fath, Jack; ond nid wyf fi byth yn myn'd i dafarn. Gwell i chwithau hefyd beidio myn'd lads . Ddaw dim daioni o yfed cwrw."

    "Thank you all the same, Jack; but I never go to a public house. You lads would be better off staying away too. Nothing good comes of drinking beer."

  86. "Ha-ha-ha!"

    "Ha-ha-ha!"

  87. crechwenai Jack.

    Jack guffawed.

  88. "Glywch chi'r hen di-total boys ! Fuost ti'n areithio dirwest 'rioed, Huw? Well i ti neidio ar ben y groes, a rhoi araeth rwan i bobol y ffair! Ha-ha-ha! Mi glywis I lawer gwaith mai ryw hen wlanen ddigalon oeddat ti, a dyma'ch di'n dangos hyny rwan. Ond mi fynaf fi sbri iawn heiddiw, sut bynag y bydd hi fory. Dowch, lads-unwaith yn y flwyddyn ydi hi am beth fel hyn."

    "Listen to the old teetotal boys! Have you ever given a temperance speech, Huw? You'd better jump up on the platform and give the fairgoers a lecture now! Ha-ha-ha! I've often heard you were a miserable old wet blanket, and now you're proving it. But I'm going to have a fine time today, whatever tomorrow may bring. Come on, lads—an occasion like this only comes once a year."

  89. Ymaith a hwynt, un gyda'i het ar ochr ei ben, y llall gyda chansen ddimai yn ei law, y trydydd gyda chetyn yn ei safn, a'r pedwerydd yn dwyn cloben o gleiffon onen braff, gan ei chwyfio fel Gwyddel yn barod am derfysg.

    Off they went: one with his hat cocked to one side, another with a cheap walking stick in his hand, the third with a pipe in his mouth, and the fourth carrying a stout cudgel of oak, flourishing it like an Irishman ready for a brawl.

  90. Y mae yma ugeiniau o rai cyffelyb iddynt yn y ffair; a bydd gan aml un o honynt goesau briw a llygaid duon cyn y nos, ac ychwaneg fyth gyda phenau clwyfus, llygaid piwtar, genau sychedig, a chyhyrau wedi llacio, gan effaith y drwyth feddwol, erbyn bore dranoeth.

    There are dozens like them at the fair; and before nightfall many of them will have bruised legs and black eyes, while even more will have battered heads, bloodshot eyes, parched mouths, and weakened muscles from the effects of intoxicating drink by the following morning.

  91. Cerddodd Huw oddi amgylch, nes dyfod at y fan lle'r oedd y chwareufeydd y shows .

    Huw walked on until he came to the place where the amusements and shows were set up.

  92. Dyna'r pethau oeddynt yn tynu mwyaf o sylw bechgyn a genethod y wlad, o lawer iawn; a sylwodd Huw fod cryn llawer o wŷr a gwragedd, a rhai oedranus, gyda phlant bychain, yn mhlith yr edrychwyr segyr a gwagsaw, yn llygad-rythu gyda'u cegau'n agored, a rhyfeddod a mawrygedd yn argraffedig ar eu gwynebau, wrth weled y "merrymen" yn myned trwy eu campau chwim, genethod yn dawnsio yn ysgafndroed, lleni cynfas llydain wedi eu dwbio â lluniau gwahanol greaduriaid ac wrth glywed curiad tabyrddau, symbalau, a chwythad croch, cras, yr udgyrn, a chrochlefau y rhai a wahoddent y bobl i mewn

    These attractions drew far more of the attention of the local boys and girls than anything else. Huw noticed a great many men and women, including elderly people with small children, among the idle and frivolous spectators. They stared open-mouthed, with expressions of wonder and amazement on their faces, as they watched the entertainers performing their nimble tricks and the girls dancing lightly. They gazed at broad canvas screens painted with pictures of various creatures, while listening to the beating of drums, the clash of cymbals, the shrill, harsh blasts of trumpets, and the loud cries of those inviting people inside

  93. "i weled rhyfeddodau penaf y byd."

    "to see the greatest wonders in the world."

  94. Gwelodd Huw mai y chwareufeydd hyn oedd wedi denu sylw y pedwar llanc ag y bu ef yn siarad a hwynt ychydig fynudau cynt, a'u bod yn mwynhau'r golygfeydd yn iawn.

    Huw saw that these shows were what had attracted the attention of the four young men he had spoken to just a few minutes earlier, and that they were thoroughly enjoying the spectacle.

  95. Ac efe a glywodd Jack y Go' yn dweyd, wrth weled un dyn ar esgynlawr cyfagos, gyda menyg mawrion am ei ddwylaw, ac yn gwahodd rhywun ato ef i gogio ymladd—

    And he heard Jack the Smith say, on seeing a man on a nearby platform, wearing enormous gloves and inviting someone up to pretend to fight—

  96. "Pw!-rhyw hen lipryn main fel 'na!-un cnoc dan ei sèna fydda'n ddigon i ddanfon rhyw gadach fel y fo at y Tylwyth Teg."

    "Pah! Some skinny little shrimp like that! One punch under his chin would be enough to send a wretch like him flying to the fairies."

  97. Gyda hyny dyna lafn o wladwr i fyny.

    Just then, a country lad stepped forward.

  98. Dodwyd menyg am ei ddwylaw yntau, ac efe a ddechreuodd osod ei hun ar agwedd ymladd.

    A pair of gloves was put on his hands too, and he began to assume a fighting stance.

  99. Chwareuodd y Proffeswr âg ef am enyd, fel cath yn chwareu a llygoden; ac yna pwyodd ef yn daclus dan ei fron, nes y cwympodd yn ddel ar yr esgynlawr, er mawr ddifyrwch i'r edrychwyr.

    The Professor toyed with him for a while, like a cat playing with a mouse; then he landed a neat blow beneath his chest, sending him tumbling flat onto the platform, much to the spectators' amusement.

  100. Clywodd Huw yr un llanc yn dweyd drachefn—

    Huw heard the same young man speak again—

  101. "Ha! dyna Sion Parri'r Waen yn myned i fyny. Ar y fan yma! os curiff o Sion, mi geiff fy nhreio inau. Tydi o'n brifo dim ar neb hefo'r menig yna."

    "Ha! There's Sion Parri of the Waen going up. Just watch! If he beats Sion, I'll have a try myself. Those gloves don't hurt anyone."

  102. Gwelodd Huw y dyn ag y rhybuddiwyd ef i'w ofni ac i'w ochel, a thybiodd fod golwg milain, cas, arno; ac yr oedd yn amlwg ei fod yn ddyn cryf a heinyf.

    Huw saw the man he had been warned to fear and avoid, and thought he had a savage, unpleasant look about him; it was obvious that he was a strong and muscular man.

  103. Ymbarotôdd i ymryson a'r Proffeswr, a rhoddodd gryn dipyn mwy o drafferth iddo na'i ragflaenydd; ac yr oedd yn amlwg fod y Proffeswr yn ofni cael dyrnod gan Sion Parri.

    He prepared to fight the Professor, and gave him considerably more trouble than his predecessor had; it was clear that the Professor was afraid of receiving a punch from Sion Parri.

  104. Gwylltiodd Sion wrth fethu taro ei wrthwynebwr, a rhuthrodd ato; ond neidiodd y llall o'r naill du mor chwim, pan oedd Sion wedi ymhyrddio ato yn ei holl nerth, a bu yr ymhyrddiad gwag hwnw yn foddion iddo gwympo ar ei ben yn erbyn talcen y tabwrdd (drum) , nes gyru ei ben ef trwyddi; a dyna lle'r oedd, a'i ben mewn cyffion, y drwm fel coler am ei wddf, a'i draed yn chwyfio yn yr awyr fel esgyll melin wynt.

    Sion grew furious when he failed to hit his opponent and charged at him; but the other man sprang swiftly aside just as Sion hurled himself forward with all his strength. This missed charge caused him to fall headfirst against the side of the drum, driving his head right through it. And there he was, with his head trapped inside, the drum hanging around his neck like a collar, and his feet waving in the air like the sails of a windmill.

  105. Yr oedd crechwen yr edrychwyr yn annrhaethol.

    The spectators' laughter was indescribable.

That is the free part

6 more chapters of Huw Huws, or The Welsh Labourer

You have read 3 of 9. The rest of this collection opens with a free account — no card, nothing to cancel. It also remembers where you are, here and on your phone.

Make a free account More Welsh

Not ready? Read the tales — every single-chapter story here is free in full, no account needed.