Free: every course and deck, with a confirmed account. Join free Still being built · Report a problem

Huw Huws, or The Welsh Labourer: II

  1. II

    II

  2. Cael eu troi allan o'r Ty Gwyn!—y bwthyn ag yr oedd eu diwydrwydd a'u glanweithder wedi ei wneyd yr harddaf yn y fro, yn yr hwn y treuliasant ddyddiau dedwyddion eu bywyd priodasol, —yn yr hwn y ganwyd eu mab a'u tair geneth—yr hwn oedd wedi dyfod iddynt yn wrthddrych serch ac ymlyniad cryf!

    Turned out of the White House!—the cottage which their industry and cleanliness had made the prettiest in the neighbourhood, in which they had spent the happy days of their married life, in which their son and three daughters had been born, and which had become an object of deep affection and attachment to them!

  3. Wel, wyla di, Marged druan,—dyffryn galar yw'r bywyd hwn; a bydd raid i ti olchi dy lwybrau caregog âg ychwaneg o ddagrau eto na hynyna.

    Well, weep, poor Marged—this life is a vale of sorrow; and you will have to wash your stony paths with even more tears than these.

  4. Fe wylodd UN uwch na thydi, pan ar ymweliad o gariad â'r byd hwn; ac nid oes neb o'i blant nad ydynt yn gorfod colli dagrau weithiau.

    ONE greater than you wept when He visited this world in love; and there is not one of His children who does not sometimes have to shed tears.

  5. Gwir fod gyrfa ambell un yn fwy trallodus nag eraill; ond cofia fod Llaw Anfeidrol wrth y Llyw, a Doethineb Hollwybodol yn trefnu amgylchiadau dyn.

    It is true that some people's paths through life are more troubled than others'; but remember that an Infinite Hand holds the helm, and All-knowing Wisdom arranges the circumstances of mankind.

  6. Pa beth bynag a ddaw i'th gyfarfod—pa gyfyngderau bynag y rhaid i ti fyned trwyddynt, dysg ymddiried yn y Doeth o Galon a'r Galluog o Nerth.

    Whatever may come your way—whatever difficulties you may have to pass through—learn to trust in Him who is wise in heart and mighty in strength.

  7. PENNOD III.

    CHAPTER III.

  8. Trwm yw'r plwm, a thrwm w'r cerig,

    Heavy is lead, and heavy are stones,

  9. Trwm yw calon pob dyn unig;

    Heavy is the heart of every lonely man;

  10. Trymaf peth tan haul a lleuad,

    The heaviest thing beneath sun and moon

  11. Canu 'n iach lle byddo cariad.

    Is bidding farewell where love has been.

  12. —HEN BENILL.

    —AN OLD WELSH VERSE.

  13. AETH dau fis heibio, ac yr oedd deifwynt y gauaf yn diosg y coed o'u hychydig ddail gweddill, a rhew y nosweithiau oerion yn cloi yr afonydd mân mewn iâ, ac yn gyru iasau o fferdod trwy gymalau Anian.

    Two months passed, and the fierce winter wind was stripping the trees of their few remaining leaves, while the frost of the cold nights was locking the little streams in ice and sending shivers of numbness through the limbs of Nature.

  14. Yr oedd pawb trwy'r fro yn gwybod am anffodion Mr.

    Everyone throughout the neighbourhood knew of Mr.

  15. Price, Bodonen, ac yr oedd tynged ei hwsmon llafurus a ffyddlawn yn peri galar i'r holl gymydogion gwledig; a dyfnheid y galar hwnw fel y dynesai y dydd iddo ef a'i dylwyth orfod troi eu cefnau ar y Tŷ Gwyn.

    Price of Bodonen, and the fate of his hardworking and faithful farmhand grieved all the country neighbours; and their sorrow deepened as the day approached when he and his family would have to turn their backs on the White House.

  16. Yr oedd gan William Huws frawd yn gweithio o gylch un o ddociau Llynlleifiad.

    William Huws had a brother who worked at one of the docks in Liverpool.

  17. Ysgrifenodd 'lythyr. at y brawd hwnw i'w hysbysu o'i drallodion, gan geisio ganddo chwilio am ryw waith iddo yntau yn y dref borthladdol hono, lle mae cynnifer o Gymry yn cael eu bywioliaeth—canoedd o honynt yn enill clod a golud, ac yn dyfod yn bobl ddylanwadol,—miloedd yn cael gwaith cyson ac enillgar; a llawer hefyd, ysywaeth!

    He wrote a letter to that brother to inform him of his troubles, asking him to look for some kind of work for him too in that port town, where so many Welsh people earn their living—hundreds of them gaining fame and wealth and becoming influential people, thousands finding steady and profitable employment; and many others, alas!

  18. yn cyfarfod âg anffodion a siomedigaethau.

    meeting with misfortunes and disappointments.

  19. Bu William am gryn amser heb gael atebiad oddi wrth ei frawd; ond, o'r diwedd, fe ddaeth llythyr, gydag hysbysrwydd ei fod wedi methu cael gwaith iddo, ond ei fod yn gobeithio llwyddo yn fuan.

    William went for quite some time without receiving an answer from his brother; but at last a letter arrived, informing him that he had been unable to find him work, though he hoped to succeed before long.

  20. "Felly," ebe fe,

    "So," he said,

  21. "gan dy fod yn gorfod ymadael oddiyna, chan fod genyt dipyn o arian wrth dy gefn, gwell i ti a'th deulu ddyfod drosodd yma; byddaf yn sicr o gael rhyw fath o waith i ti cyn y derfydd dy arian."

    "Since you have to leave there, and have a little money put by, it would be better for you and your family to come over here; I am sure I can find some sort of work for you before your money runs out."

  22. Penderfynodd William ddylyn cyngor ei frawd, a dechreuodd barotoi ar gyfer ymfudo i Lynlleifiad.

    William decided to follow his brother's advice and began preparing to move to Liverpool.

  23. Yr oedd y gweinidog, yn eglwys yr hwn yr arferai William Huws, a'i dylwyth, addoli, yn ceisio ei berswadio, yn mhob modd, i beidio myned i Loegr cyn cael sicrwydd o waith; ond nis gallai William yn ei fyw ymwrthod â'r dybiaeth fod ffawd dda yn ei aros yn Llynlleifiad.

    The minister of the church where William Huws and his family were accustomed to worship tried in every way to persuade him not to go to England without first securing a job; but William simply could not bring himself to abandon the belief that good fortune awaited him in Liverpool.

  24. Ac wrth weled nad oedd dim yn tycio, penderfynodd y Parch.

    And seeing that nothing would avail, the Reverend

  25. Mr.

    Mr.

  26. Lloyd na chaffai Huw, bachgen William Huws, ddim myned gyda'i rieni; ac efe a ofynodd, megis ffafr bersonol iddo ef ei hun, am iddynt adael Huw gydag ef, i fod yn was iddo, gan addaw gofalu am ei gysur, a'i addysg, a rhoddi pob cynnorthwy yn ei gyrhaedd i ddyfod yn mlaen.

    Lloyd decided that Huw, William Huws's son, should not go with his parents; and he asked them, as a personal favour to himself, to leave Huw with him to serve as his attendant, promising to look after his comfort and education and to give him every assistance in making his way in life.

  27. Nis gallai y rhieni wrthod y fath gais, gan fod ganddynt yr ymddiried llwyraf yn nuwioldeb a charedigrwydd Mr.

    The parents could not refuse such a request, since they had the utmost confidence in the goodness and kindness of Mr.

  28. Lloyd.

    Lloyd.

  29. Y diwrnod cyn iddynt gychwyn, cynhaliwyd arwerthfa ar ddodrefn ac eiddo William Huws.

    On the day before their departure, an auction was held of William Huws's furniture and possessions.

  30. Gwerthwyd y cyfan, oddigerth ychydig o nwyddau diwerth ynddynt eu hunain, ond y rhai oeddynt dra gwerthfawr yn ngolwg y tylwyth, o herwydd rhyw bethau bychain cysylltiedig â'u hanes; a dau wely peiswyn glân, gydag ychydig wrthbanau a chynfasau o wneuthuriad cartref.

    Everything was sold, except for a few articles of little value in themselves, but very precious in the eyes of the family because of the small memories associated with them; and two clean, white feather beds, together with a few homemade blankets and sheets.

  31. Yr oedd y cyfnewidiad yn, ac o amgylch y Tŷ Gwyn, y fath fel mai anhawdd fuasai ei adnabod fel yr annedd ddestlus yn mha un y preswyliai y teulu dedwydd gynt, ond y rhai oeddynt yn awr ar fin ei adael, heb, efallai, obaith ei weled byth mwy.

    The transformation inside and around the White House was such that it would have been difficult to recognise it as the neat little home in which the happy family had once lived, and which they were now about to leave, perhaps without ever hoping to see it again.

  32. Noson ddu, ddigysur, oedd y noson olaf a dreuliasant rhwng muriau moelion yr hen dŷ; ac yr oedd pob un o aelodau'r teulu yn gofidio ac yn galaru dros ryw dristwch cyfrinachol nas gallai neb arall ei ganfod na'i deimlo.

    A dark, cheerless night was the last they spent within the bare walls of the old house; and each member of the family was troubled and grieving over some private sorrow which no one else could discover or feel.

  33. Y mae adegau pan y bydd y cyfaill anwylaf ac agosaf yn ymddangos fel dieithr ddyn y mae, weithiau, dyfnderoedd o deimlad, nas gall, ac nis gwiw, i lygad neb eu chwilio, dirgryniadau o ing dirgelaidd tu hwnt i gydymdeimlad dynol.

    There are times when even the dearest and closest friend seems like a stranger, for sometimes there are depths of feeling which no eye can penetrate, nor should attempt to explore, and tremors of secret anguish beyond the reach of human sympathy.

  34. Ei hunan y mae dyn yn dyfod i'r byd—ei hunan yn ymollwng ar gefnfor tragywyddoldeb; a rhwng y ddau gyfnod, y mae ambell foment yn dygwydd pan fydd dyn yn gorfod teimlo, er gwaethaf ei ymdrechion i'r gwrthwyneb,—ei fod "ar ei ben ei hun," megis, heb neb ar y ddaear a all ei gysuro.

    A person comes into the world alone—and alone drifts out upon the ocean of eternity; and between these two moments there are occasions when, despite all efforts to the contrary, one must feel that one is, as it were, "all alone," with no one on earth who can offer comfort.

  35. Teimlai William a Marged Huws hyny i raddau yn awr, er fod y cymydogion, yn ol arfer Cymry y wlad, yn heidio atynt i gynyg eu cydymdeimlad, eu cymorth, a'u dyddanwch.

    William and Marged Huws felt this to some extent now, although their neighbours, following the custom of the Welsh countryside, flocked to offer them their sympathy, assistance, and consolation.

  36. Yr oedd y tair geneth wedi bod yn adeiladu cestyll lawer yn yr awyr, wrth feddwl am gael myned i fyw i Lynlleifiad.

    The three girls had been building many castles in the air at the thought of going to live in Liverpool.

  37. Addawent iddynt eu hunain ddedwyddwch annesgrifiadwy yn y lle mawr yr oeddynt wedi clywed cymaint am ei ryfeddodau.

    They promised themselves indescribable happiness in that great city whose wonders they had heard so much about.

  38. Ond sobrodd yr arwerthiant ar bethau y Tŷ Gwyn lawer arnynt hwythau hefyd, a gwnaeth i Mari fach gydymdeimlo mwy â gofidiau ei rhieni; ac wylai y ddwy eneth leiaf wrth weled eu mam yn wylo, pan werthwyd yr hen dresser dderw, a gafodd hi gan ei mam ei hun, a chofio fod y fam hono, bellach, wedi myned i'r

    But the auction of the White House belongings also sobered them considerably, and made little Mari feel more deeply for her parents' sorrow. The two youngest girls wept when they saw their mother crying as the old oak dresser, which she had received from her own mother, was sold, and remembered that her mother had now gone to the

  39. "tŷ rhag—derfynedig i bob dyn byw."

    "house appointed for every living person."

  40. Yr oedd gofid Huw, y bachgen, yn fawr arno.

    Huw, the boy, was deeply distressed.

  41. Clywodd ef Mr.

    He had heard Mr.

  42. Lloyd, wrth geisio perswadio ei dad i beidio myned i Lynlleifiad, yn dangos effeithiau peryglus awyr afiach tref fawr ar blant ieuainc, a'r temtasiynau a amgylchynent ieuenctyd mewn lle fel Llynlleifiad.

    Lloyd, while trying to persuade his father not to go to Liverpool, describe the dangerous effects of the unhealthy air of a large town on young children, and the temptations that surrounded young people in a place like Liverpool.

  43. Ac er fod hyny yn enyn gofid ac anesmwythder mawr yn meddwl Huw, gwnaeth iddo benderfynu, yn gryfach fyth, i ddylyn y llwybr o ddyledswydd a nodid allan iddo gan y Gweinidog.

    And although this caused Huw great distress and uneasiness, it made him even more firmly determined to follow the path of duty that the Minister had pointed out to him.

  44. Gwnaeth y trallodion hyn i feddwl y bachgenyn ordyfu ei oedran.

    These troubles made the boy's mind mature beyond his years.

  45. Yr oedd ef, bob amser, yn hogyn call a meddylgar; ond daeth yn awr yn ddifrifol tu hwnt i'w oedran.

    He had always been a sensible and thoughtful boy; but now he became serious beyond his years.

  46. Y mae peryglon yn hyny, ar rai amgylchiadau, pan y gall colli hoender a chwareugarwch ieuenctid ladd yni a sychu ffynhonell gweithgarwch.

    There are dangers in this, in certain circumstances, when the loss of youthful cheerfulness and playfulness can destroy energy and dry up the springs of activity.

  47. Ond hyderwn nad dyna fel y bydd gyda hanes ein harwr.

    But we trust that this will not be the course of events in the life of our hero.

  48. Dychwelodd y cymydogion i'w cartrefleoedd, y naill ar ol y llall, gan adael teulu William Huws eu hunain, yn eu hannedd ddiddodrefn.

    The neighbours returned to their homes, one after another, leaving William Huws's family alone in their unfurnished dwelling.

  49. Yr oedd y nos wedi mantellu y fro.

    Night had spread its mantle over the countryside.

  50. Ymddringai y lleuad haner llawn dros gopa Mynydd Bodafon, ac edrychai i mewn arnynt, fel i roddi ffarwel, trwy gangau y boplysen a gysgodai y ffenestr.

    The half-full moon was rising above the summit of Bodafon Mountain, and peered in at them, as if to bid them farewell, through the branches of the poplar tree that shaded the window.

  51. Torodd Mari ar y dystawrwydd, gan ddywedyd,

    Mari broke the silence, saying,

  52. "A!—y pren bocs! Gobeithio y caiff o chware teg gin bwy bynag ddaw yma i fyw!"

    "Ah!—the box tree! I hope whoever comes to live here will treat it fairly!"

  53. "Ie'n wir!"

    "Indeed!"

  54. ebe Huw.

    said Huw.

  55. "Mi gefis i lawer o bleser wrth drin a thrimio'r coed yna, yn enwedig y pren bocs. Y mae'n debyg y toriff rhywun o i lawr cyn bo hir!"

    "I've had a great deal of pleasure tending and trimming those trees, especially the box tree. I expect someone will cut it down before long!"

  56. "Paid a hidio, Huw," meddai Mari, drachefn, wrth weled deigryn yn llenwi llygad ei brawd;

    "Don't worry, Huw," said Mari again, seeing a tear well up in her brother's eye;

  57. "mi fynaf fi gael un neisiach yn yr ardd yn Nerpwl, gael i ti gael pleser pen ddoi di i edrach am danon ni."

    "I'll make sure we have an even prettier one in our garden in Liverpool, so you can enjoy it when you come to visit us."

  58. Edrychodd William Huws yn dyner ar ei ferch hynaf, yr hon oedd yn dangos y fath anwybodaeth am gyfleusderau ac arferion trigolion tlodion Llynlleifiad.

    William Huws looked tenderly at his eldest daughter, who showed such ignorance of the living conditions and habits of Liverpool's poorer inhabitants.

  59. "Chawn ni ddim gardd yno, Mari bach," ebe fe.

    "We shan't have a garden there, little Mari," he said.

  60. "Bydd raid i ni fyw mewn lle gwahanol iawn i hwn. Yr unig beth a gawn ni yno, ag sydd wedi'n gwneud yn hapus yma, fydd presenoldeb Duw. Yr wyt ti'n gwybod 'i fod Ef yno fel yma, on' 'twyt ti, Mari?"

    "We'll have to live in a place very different from this one. The only thing we'll have there that has made us happy here will be the presence of God. You know that He is there just as He is here, don't you, Mari?"

  61. "Ydw, nhad—mae O 'mhob man ar yr un waith."

    "Yes, Father—He's everywhere at the same time."

  62. "Ydyw, ngeneth i," ebe'r fam wed'yn.

    "That's right, my daughter," said her mother then.

  63. Ac yna dyrchafodd ei llygaid i fyny, ac yr oeddynt yn llawn dagrau; a dywedodd, "Os na ddaw Duw gyda ni yno, dysged ni i fyned i i rywle arall! ”

    Then she raised her eyes heavenward, and they were full of tears; and she said, "If God does not go with us there, may He teach us to go somewhere else!"

  64. "Mam!"

    "Mother!"

  65. meddai Huw—

    said Huw—

  66. "tybed nad oedd testyn Mr. Lloyd, nos Sul, yn atebiad i hyna— Ni'th roddaf i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith'!"

    "Wasn't Mr. Lloyd's text on Sunday evening an answer to that—'I will not give you up, nor will I ever completely forsake you'?"

  67. "Ydyw, machgen," ebe'r tad.

    "Yes, my boy," said his father.

  68. "Os byddwn ni'n ffyddlon iddo Ef, ni fydd iddo ein gadael yn unig a dinodded. Chawn ni ddim gardd, na phoplys, na phren bocs, na blodau, yn Nerpwl; ond cawn weled yr awyr, a'r lleuad, a'r ser, yn tywynu trwy'r ffenestr, fel yma, ac yn ein hadgoffa o'r hyn a ddywedodd Mr. Lloyd, a ar ei bregeth, am oleuni'n dysgleirio yn y tywyllwch. Cawn y Beibl yno hefyd, a moddion gras. O! yr wyf yn diolch am i mi gael fy nerthu i'ch dwyn i fyny'n blant crefyddol, ac am dy fod di, Huw, yn debyg o gael arweiniad dyn mor dda a Mr. Lloyd. Cofia am dy enaid, fy machgen, yn gystal ag am dy gorff—am dy addysg ysbrydol, yn gystal ag am dy gynnydd mewn gwybodaeth ddaearol. Bydd i ni gyd-weddio llawer drosot ti; gweddia dithau drosot dy hun, a throsom ninau!"

    "If we remain faithful to Him, He will not leave us alone and helpless. We shall have no garden, no poplars, no box tree, no flowers in Liverpool; but we shall see the sky, the moon, and the stars shining through the window, just as they do here, and reminding us of what Mr. Lloyd said in his sermon about the light shining in the darkness. We shall have the Bible there too, and the means of grace. Oh! I am thankful that I have been strengthened to bring you up as godly children, and that you, Huw, are likely to have the guidance of such a good man as Mr. Lloyd. Remember your soul, my boy, as well as your body—your spiritual education as well as your progress in earthly knowledge. We shall all pray often for you; you too must pray for yourself and for us!"

  69. Wylodd Huw yn hidl, a thorodd y plant eraill hefyd i wylo yn uchel.

    Huw wept bitterly, and the other children also burst into loud sobs.

  70. Yr oedd goleuni y lleuad yn disgyn arnynt yn awr gyda nerth, ac fel yn eu trochi yn ei dysgleirdeb digwmwl.

    The moonlight was now falling brightly upon them, seeming to bathe them in its cloudless radiance.

  71. Edrychasant ar eu gilydd, ac yna ar y lloer ganaid, tra yr oedd y syniad naturiol megis yn cyd-enyn pob mynwes, y caffai y lleuad fod yn bwynt eu harsylliad hoff pan wedi eu gwahanu oddi wrth eu gilydd o ran lle ac amgylchiadau.

    They looked at one another, and then at the shining moon, while the same natural thought seemed to awaken in every heart: that the moon would become their favourite point of observation when they were separated from one another by distance and circumstance.

  72. Ar ol ychydig fynydau o ddystawrwydd, galwodd William Huws ar Lowri fach—yr ail eneth—i adrodd y Drydedd Psalm ar Hugain.

    After a few minutes of silence, William Huws asked little Lowri—the second daughter—to recite the Twenty-third Psalm.

  73. Ni theimlodd y teulu erioed o'r blaen y fath gysur, oddi wrth sicrwydd duwiolfrydig y Psalm, â'r pryd hwnw, pan oedd Lowri fach yn ei hadrodd yn ei dull syml, a'i llais yn grynedig gan deimlad.

    The family had never before felt such comfort from the godly assurance of the Psalm as they did then, while little Lowri recited it in her simple manner, her voice trembling with emotion.

  74. Yna aethant oll ar eu gliniau; ac yr oedd gweddi William Huws yn hynod ddifrifddwys a gafaelgar, wrth orchymyn ei blant—pob un dan ei henw, gyda chyfeiriadau diaddurn at eu gwahanol sefyllfaoedd a'u hanghenion, yn gystal ag ef ei hunan, a'i briod, i ofal a nodded y Nef.

    Then they all knelt; and William Huws's prayer was extraordinarily solemn and moving as he commended his children—each one by name, with simple references to their different circumstances and needs—as well as himself and his wife, to the care and protection of Heaven.

  75. Ac nid oes neb, ond y sawl a fagwyd mewn teulu duwiol, a ŵyr am effeithiau'r fath wasanaeth dwyfol ar y galon ieuanc.

    And no one except those brought up in a godly family can know the effect such a sacred service has upon a young heart.

  76. Bore dranoeth, aeth Huw i ddanfon ei deulu at y llong oedd yn barod i gychwyn o'r porthladd.

    The following morning, Huw went with his family to the ship that was ready to depart from the harbour.

  77. Ni chymerwn arnom geisio cofnodi na desgrifio yr ymadawiad.

    We shall not attempt to record or describe the departure.

  78. Yr oedd yn rhy gysegredig a theimladol i'n hysgrifell ni wneud cyfiawnder âg ef.

    It was too sacred and too full of emotion for our pen to do it justice.

  79. Ni fydd i ni ychwaith adrodd helyntion y fordaith i Lynlleifiad.

    Nor shall we recount the incidents of the voyage to Liverpool.

  80. Cyrhaeddasant y dref fawr, a daeth Owen Huws, brawd William, i'w cyfarfod, ac arweiniodd hwynt tua'r heol lle'r oedd ef yn preswylio ynddi, gan ymddangos yn falch cael eu croesawu.

    They arrived in the great city, where Owen Huws, William's brother, came to meet them and led them towards the street where he lived, appearing delighted to welcome them.

  81. PENNOD IV.

    CHAPTER IV.

  82. 'They left the barge, and all other feelings were soon absorbed in wonder at the size of the town, and the extreme length, narrowness, and filth of the street.

    'They left the barge, and all other feelings were soon absorbed in wonder at the size of the town, and the extreme length, narrowness, and filth of the street.'

  83. " —CHARLOTTE ELIZABETH. Yr oedd William ac Owen Huws, er yn ddau frawd, eto yn hollol wahanol i'w gilydd o ran tymher, arferion a thueddiadau; ac, oherwydd hyny, ni fu ryw lawer iawn o gydymdeimlad agos, na chymundeb cynes, rhyngddynt braidd erioed. Pan yn llanc, balchder oedd prif nodwedd Owen, ac ymffrostiai lawer yn ei harddwch a'i gryfder. Diystyrodd lawer ar ei frawd am ymfoddloni i dreulio ei ddyddiau goreu "yn y wlad," yn lle penderfynu, fel efe, "ceisio ei ffortiwn yn Nerpwl, neu ryw dref fawr arall.

    " —CHARLOTTE ELIZABETH. Although William and Owen Huws were brothers, they were nevertheless entirely different from one another in temperament, habits, and inclinations; and for this reason there had never been much close sympathy or warm fellowship between them. As a young man, Owen's chief characteristic was pride, and he boasted greatly of his good looks and strength. He thought little of his brother for being content to spend the best years of his life "in the country," instead of deciding, as he had done, to "seek his fortune in Liverpool or some other great town."

  84. " Nid oedd ef, ychwaith, yn meddu parch neillduol i grefydd, er nad oedd yn hynod am anfoesoldeb; tra yr oedd William, er yn fachgen, wedi enill iddo ei hun gymeriad uchel fel llanc a dyn crefyddol. Wrth gerdded o'r porthladd, tua thŷ Owen Huws, yr oedd cyflwr meddyliol y newyddiaid mewn agwedd ag y buasai y dyfyniad uchod, o waith yr awdures alluog, Charlotte Elisabeth, yn dra phriodol i gyfleu syniad am eu teimladau hwynt. "

    "Nor did he possess any particular respect for religion, although he was not notably immoral; whereas William, even as a boy, had earned for himself a high reputation as a religious young man. As they walked from the harbour towards Owen Huws's house, the newcomers were in such a frame of mind that the above quotation from the talented authoress Charlotte Elizabeth would have been particularly appropriate in conveying an idea of their feelings."

  85. Synwyd hwynt gan faint y dref, a hyd, culni, ac aflendid" rhai o'r heolydd. Dysgwyliasant weled agwedd harddach ar bethau, a theimlent yn siomedig. Yr oedd Owen Huws yn byw yn un o'r heolydd sydd yn agos i'r afon Mersey, llawer o ba rai sydd yn hynod am eu hawyr afiach a'u budreddi, a theimlodd y newydd-ddyfodiaid hyny yn boenus ar eu mynediad i'r heol lle'r oeddynt i dreulio ychydig amser yn awr. Croesawyd hwynt gydag ymddangosiad o garedigrwydd gwresog gan wraig Owen Huws; ond nis gallai plant William lai na thynu gwrth-gyferbyniad anffafriol rhwng ei hymddangosiad hi ag agwedd eu mham hwynt, megis yr oeddynt eisoes wedi gwneuthur gyda golwg ar eu tad a'u hewythr. Nis gallent, ychwaith, lai na galw i gof, lendid, taclusrwydd, a chysuron blaenorol y Ty Gwyn, wrth sylwi ar yr agwedd yr aethant iddi yn awr. Yma, yr oedd y parwydydd melynion ac ystaeniog wedi eu gorchuddio â nifer o ddarluniau o'r math mwyaf plentynaidd, rhai o honynt yn hollol newydd, ac wedi eu dodi yno, yn ddiau, i ddangos chwaeth ragorol gwraig y ty; ond y mae'n gas gan bob dyn coethedig ei chwaeth eu gweled yn mhob man, er eu bod yn dyfod yn lled gyffredin i Gymru yn y dyddiau hyn. Yr oedd y ffenestri wedi eu tywyllu gan faw, a'u haddurno gan weoedd ceinclyd y pryf copyn; ac eto, yr oedd yn amlwg fod Mrs. Owen Huws wedi gwneud ei goreu glas i gael golwg fawreddus ar y ty, ac arni ei hunan hefyd; ac er nad oedd hi wedi thau fawr i gyd ar ei gwallt mattiog, eto yr oedd ganddi gap o lun hollol wahanol i ddim a welodd Marged Huws erioed yn y wlad, ac yr oedd y cap hwnw yn llawn o rubanau flamllyd ac amryliw. Nid oedd yno ddim prinder o'r hyn a ystyriai y letywraig yn addurniadau; ond yr oedd y ty yn amddifad o daclusrwydd, glanweithdra, cysur, a pharchusrwydd,

    They were astonished by the size of the town, and by the length, narrowness, and filth of some of its streets. They had expected to see a more attractive side of things, and felt disappointed. Owen Huws lived in one of the streets near the River Mersey, many of which were notorious for their unhealthy air and squalor, and the newcomers felt this keenly as they entered the street where they were now to spend some time. They were welcomed with an appearance of warm friendliness by Owen Huws's wife; but William's children could not help drawing an unfavourable comparison between her appearance and that of their own mother, just as they had already done when comparing their father with their uncle. Nor could they help recalling the cleanliness, tidiness, and comforts they had previously enjoyed at the White House when they observed the surroundings into which they had now come. Here, the yellow, stained walls were covered with a number of the most childish-looking pictures, some of them quite new and doubtless placed there to display the excellent taste of the lady of the house; yet anyone of refined taste would find them disagreeable to see everywhere, although they are becoming fairly common in Wales nowadays. The windows were darkened with dirt and decorated with the delicate webs of spiders; and yet it was evident that Mrs. Owen Huws had done her very best to give both the house and herself a grand appearance. Although she had not entirely covered her matted hair, she wore a cap of a style quite unlike anything Marged Huws had ever seen in the countryside, and this cap was covered with gaudy, brightly coloured ribbons. There was no shortage of what the landlady considered ornaments; but the house was lacking in tidiness, cleanliness, comfort, and respectability,

  86. Dechreuodd y genethod bychain goleddu syniadau îs nag o'r blaen am ardderchogrwydd Llynlleifiad.

    The little girls began to form a less exalted opinion than before of Liverpool's splendour.

  87. Druain o honynt!

    Poor little things!

  88. byddai'n dda pe na welent fwy na hyny o anfadrwydd y lle.

    It would be well if they saw no more of the city's unpleasantness than that.

  89. Ac nid oedd Mrs.

    And Mrs.

  90. Huws ond esampl gyffredin iawn o un dosbarth lluosog o'r trigolion—pobl ddiddarbodaeth digon caredig yn eu ffordd, ond heb erioed ystyried pa fodd i ychwanegu cysur at eu haelwydydd eu hunain, na dedwyddwch eu teuluoedd.

    Huws was merely a very ordinary example of one numerous class of inhabitants—people of little refinement, reasonably kind in their own way, but who had never considered how to bring greater comfort to their homes or more happiness to their families.

  91. A bu yn ddrwg genym lawer gwaith ganfod amryw o ferched Cymru yn Llynlleifiad yn teilyngu y nodwedd.

    And it has often saddened us to find that many Welsh women in Liverpool deserved this description.

  92. Cytunwyd ar fod i ddwy ystafell o dŷ Owen Huws gael eu gosod i William a'i dylwyth, hyd nes y caffai ef waith, a gallu o hono gymeryd ty cyfan iddynt eu hunain.

    It was agreed that two rooms in Owen Huws's house should be let to William and his family until he found work and was able to take an entire house for themselves.