Legends of Old Wales: Bedd yr Yspeilydd

  1. Bedd yr Yspeilydd

    The Robber's Grave

  2. BEDD YR YSPEILYDD.

    THE ROBBER'S GRAVE.

  3. (Hanesyn ac ynddo addysg i bleidwyr Deddf Dienyddiad.)

    (A short tale containing a lesson for supporters of the Death Penalty Act.)

  4. Yn nghymdogaeth Trefaldwyn, tua'r flwyddyn 1819, yr oedd hen balasdy a elwid Oakfied, yr hwn er mwyn rhyw welliantau neu gilydd a drowyd yn ffermdy.

    In the neighbourhood of Montgomery, around the year 1819, there stood an old mansion called Oakfield, which, for one reason or another, had been converted into a farmhouse.

  5. Enw tenant y lle y pryd hwnw oedd James Morys, yr hwn oedd ddyn diofal ac afradlon, yn esgeuluso ei fasnach, a'r hw a fu farw mewn dyled, gan adael ei wraig a'i unig ferch mewn meddiant o'r lle.

    The tenant of the property at that time was named James Morys, a careless and extravagant man who neglected his business. He died in debt, leaving his wife and only daughter in possession of the property.

  6. Yn fuan ar ol marwolaeth ei gŵr, cymerodd y wraig i'w gwasanaeth fel hwsmon ddyn ieuanc o'r enw Newton, o Swydd Stafford; yr hwn a gyflawnai ei swydd gyda gonestrwydd a llwyddiant mawr.

    Soon after her husband's death, the widow took into her service as farm bailiff a young man named Newton, from Staffordshire, who performed his duties with great honesty and success.

  7. Yr oedd efe yn berffaith ddyeithr yn y wlad hono, ac ni chyfeillachai â neb o'r cymydogion, eithr cyflwynai ei holl sylw a'i amser at ei alwedigaeth.

    He was a complete stranger in that part of the country and made friends with none of the neighbours, but devoted all his attention and time to his occupation.

  8. Anaml yr ymadawai â chartref, oddieithr i ffeiriau a marchnadoedd, ac i'r Eglwys ar y Sul, lle yr ymddangosai yn ddefosiynol iawn wrth wrando yn astud ar wasanaeth nad oedd yn deall yr un gair ohono.

    He rarely left home except to attend fairs and markets, and to go to church on Sundays, where he appeared deeply devout as he listened attentively to a service of which he did not understand a single word.

  9. Ymddygai yn weddus bob amser; eto ymgadwai mor neillduedig fel y methodd offeiriad y plwyf, er ei holl ymdrech, ffurfio cyfeillach âg ef. ond yr oedd y fferm yn gwella tan ei arolygiaeth; a'i pherchenog yn llwyddo yn y byd.

    He always conducted himself properly; yet he remained so reserved that the parish priest, despite all his efforts, was unable to establish any friendship with him. Nevertheless, the farm prospered under his management, and its owner grew increasingly successful.

  10. Aeth dwy flynedd heibio, ystyriai y weddw ef yn fwy fel cyfaill nag fel gwas; ac yr oedd yn llon ganddi weled ei hanwyl eneth ac yntau yn ymserchu yn eu gilydd.

    Two years passed. The widow regarded him more as a friend than as a servant, and she was delighted to see that her beloved daughter and he were falling in love with one another.

  11. Un prydnawn yn Tachwedd, 1821, daliwyd ef yn hŵy nag arferol yn y yrallwm, ac am chwech o'r gloch cychwynai ar ei draed tuag Oakfield.

    One afternoon in November 1821, he was detained longer than usual at the threshing barn, and at six o'clock he set out on foot towards Oakfield.

  12. Yr oedd yn noswaith dywell iawn; a disgwylid ef yn bryderus adref; ond er disgwyl a phryderu hyd ddau a thri nid oedd yn dyfod; ond cyrhaeddodd y newydd yn y bore ei fod wedi dychwelyd i'r dref yn fuan ar ol ymadael, yn ngofal dau ddyn o'r enw Parcer a Pirs, y rhai a'i cyhuddent o ladrad penffordd, yr hwn drosedd a gospid â marwolaeth y pryd hwnw.

    It was an exceedingly dark night, and he was anxiously awaited at home. But despite waiting and worrying until two and three o'clock, he did not arrive. In the morning, however, news came that shortly after setting out he had been taken back to the town in the custody of two men named Parcer and Pirs, who accused him of highway robbery, a crime then punishable by death.

  13. Profwyd ef yn euog o'r cyhuddiad yn y Sesiwn ddyfodol ar dystiolaeth y ddau gyhuddwyr hyny, yr hon oedd yn eglur a chyson drwyddi, a dedfrydwyd ef i gael ei grogi.

    At the following Assizes, he was found guilty of the charge on the testimony of those two accusers, whose evidence was clear and consistent throughout, and he was sentenced to be hanged.

  14. Nid oedd ganddo ddadleuydd, ac ni alwodd unrhyw dyst o'i blaid; ond pan ofynodd y barnwr iddo yn y dull arferol, "a oedd ganddo rywbeth i'w ddywedyd paham na ddylai dedfryd angau gael ei chyhoeddi arno,"efe a anerchodd y llys yn dull rhyfedd a ganlyn: — "Y mae yn eithaf amlwg mai ofer hollol a fuasai unrhyw amddiffyniad o'm heiddo i yn erbyn y fath dystiolaeth. Y mae fy nghyhuddwyr yn ddynion parchus, ac ymddengys eu tystiolaeth yn eglur a phenderfynol, ac nis gallaf feio y rheithwyr am fy nghael yn euog. Yr wyf yn maddeu o'm calon i'r dynion hyn y condemnir fi ar eu camdystiolaeth. Ond, fy arglwydd, yr wyf yn ardystio yn y modd difrifolaf gerbron y llys hwn, gerbron eich arglwyddiaeth, a cherbron y Duw cyfiawn y byddaf yn fuan o'i flaen i'm barnu, fy mod yn hollol ddieuog oddiwrth y trosedd y condemnir fi o'i blegyd. Ni ddygais neb i siarad ar fy rhan. Nid oes ond dwy flynedd er pan y daethum yn ddyeithr i'r wlad hon gyntaf. Ni wnaethum gydnabyddiaeth â neb tu allan i'r teulu a wasanaethwn, ac ymdrechais gyflawni fy nyledswyddau yn ffyddlon a gonest. Nid wyf yn gobeithio nac yn dymuno i'm bywyd gael ei arbed; ond yr wyf yn gweddio na byddo i'r trosedd hwn orwedd ar fy enw. Yr wyf yn gobeithio yr argyhoeddir fy meistres a'i merch garuaidd, na ddarfu iddynt lochesu na bod yn garedig wrth yspeilydd penffordd. Gweddiais lawer yn ystod fy ngharchariad am i'r gobaith hwn gael ei sylweddoli; ac yr wyf yn hyderus ddarfod i'm gweddi gael gwrandawiad. Yr wyf yn beiddio dweyd, os dieuog ydwyf o'r trosedd hwn, na bydd i laswellt dyfu ar fy medd am un genedlaeth o leiaf. Fy arglwydd, "derbyniaf eich dedfryd yn ddirwgnach, a gweddiaf yn daer ar fod i bawb fydd yn fy ngwrando gael eu dwyn i edifeirwch, a'm cyfarfod eto yn y nef.

    He had no defence counsel and called no witnesses on his behalf. But when the judge asked him in the customary manner whether he had anything to say as to why the sentence of death should not be pronounced upon him, he addressed the court in the following remarkable fashion: — "It is quite clear that any defence I might offer against such evidence would be utterly useless. My accusers are respectable men, and their testimony appears clear and decisive. I cannot blame the jury for finding me guilty. From the bottom of my heart, I forgive these men on whose false testimony I am condemned. But, my lord, I solemnly declare before this court, before your lordship, and before the righteous God, in whose presence I shall soon stand to be judged, that I am entirely innocent of the crime for which I am condemned. I have brought no one forward to speak on my behalf. It is only two years since I first came as a stranger to this country. I have made no acquaintances outside the family I served, and I have endeavoured to perform my duties faithfully and honestly. I neither hope nor wish that my life should be spared; but I pray that this crime may not rest upon my name. I hope that my mistress and her beloved daughter will be convinced that they have neither sheltered nor shown kindness to a highway robber. During my imprisonment I have prayed often that this hope might be fulfilled, and I am confident that my prayer has been heard. I dare to say that, if I am innocent of this crime, not a blade of grass shall grow upon my grave for at least one generation. My lord, I accept your sentence without a murmur, and I earnestly pray that all who hear me may be brought to repentance, and that I may meet them again in heaven."

  15. "

  16. Pa fodd bynag, pasiwyd dedfryd eithaf y gyfraith ar y truan anffodus; a chladdwyd ef tu cefn i eglwys Trefaldwyn.

    Nevertheless, the full penalty of the law was imposed upon the unfortunate man, and he was buried behind Montgomery church.

  17. Dywed un ysgrifenydd ei fod ef wedi ymweled â'r lle yn nghymdeithas Eliott Warburton, yn mhen deng mlynedd ar ugain wedi i Newton gael ei gladdu, ac nad oedd gymaint ag un glaswelltyn yn tyfu ar y bedd.

    One writer states that he visited the place in the company of Eliott Warburton, twenty years after Newton had been buried, and that not even a single blade of grass was growing on the grave.

  18. Nid oedd yr un bedd arall yn agos ato; a thrwy ei fod yn gydwastad â'r llawr, yr oedd yn wahanol i'r holl feddau ereill.

    There was no other grave near it, and because it was level with the ground, it looked quite unlike all the other graves.

  19. Yr oedd y tir o'i ddeutu yn nodedig o ffrwythlawn — llysiau preiffion a thoreithiog yn tyfu am gryn bellder oddiwrtho.

    The ground around it was remarkably fertile — luxuriant and abundant vegetation grew at some distance from it.

  20. Llawer gwaith y ceisiwyd gan bobl yr ardal gael gan laswellt dyfu ar y llecyn diffrwyth; rhoddwyd pridd newydd drosto, a hauwyd arno amrywiol fathau o lysiau, ond yn gwbl ofer; disgynai y lle yn fuan i'w sefyllfa gyntefig, yn gleidir oer a chaled.

    The local people tried many times to make grass grow on the barren patch. Fresh soil was spread over it, and various kinds of plants were sown there, but all in vain. The place soon returned to its original condition, a cold, hard, bare patch of earth.

  21. Mewn perthynas â'r ddau au-dyst annuwiol, ymddengys fod teulu Parcer wedi bod unwaith yn feddianwyr Oak field; a'i fod ef yn dysgwyl, os ceid ymadael â Newton, y byddai y ffordd yn rhwyddach i'r lle ddyfod i'w feddiant yntau drachefn.

    As for the two wicked witnesses, it appears that the Parcer family had once been owners of Oakfield, and that Parcer expected that, if Newton could be got rid of, it would be easier for the property to come into his possession once again.

  22. Dywedid fod Pirs yn ymgeisio am law y ferch ieuanc tua'r amser y bu Mr.

    It was said that Pirs had been seeking the young woman's hand in marriage around the time when Mr.

  23. Morys farw, a theimlai fod Newton wedi achub y blaen arno.

    Morys died, and that he felt Newton had beaten him to her.

  24. Ymadawodd â'r gymdogaeth yn fuan ar ol collfarniad ei gydymgeisydd, trodd yn adyn meddw a pheryglus, a lladdwyd ef yn y diwedd mewn chwarel geryg calch wrth danio y graig.

    He left the neighbourhood shortly after his rival's conviction, became a drunken and dangerous wretch, and was eventually killed in a limestone quarry while blasting the rock.

  25. Surodd natur Parcer yn sarug a diysbryd, ac ymddangosai bywyd yn faich trwm ac anhawdd ei ddwyn iddo, ac yn ol tystiolaeth hen glochydd Trefaldwyn, curiodd ei gnawd 'oddiam ei esgyrn, a threngodd mewn sefyllfa hynod o angenus a diamgeledd.

    Parcer's disposition grew bitter and gloomy, and life seemed to him a heavy burden, difficult to endure. According to the testimony of an old bell-ringer of Montgomery, his flesh wasted away until little remained but skin and bones, and he died in circumstances of extreme poverty and destitution.

  26. Cyfieithwyd yr hanesyn hwn o'r Manchester Weekly Times, gan un o'r enw Mr. W.

    This anecdote was translated from the Manchester Weekly Times by a gentleman named Mr. W.

  27. Williams. yr hwn a ddeisyfodd ar i ryw un o'r lle daflu ychydig oleuni ar y ffaith, a dwyn eu tystiolaeth i'w chywirdeb.

    Williams, who requested that someone from the locality shed some light on the facts and provide testimony as to their accuracy.

  28. Ymgymerodd boneddwr o blwyf cyfagos â'r cais, ac wele ei dystiolaeth: — " Dymunaf hysbysu fy nghydgenedl nas gallaf ddwyn unrhyw dystiolaeth uniongyrchol am y dyn a gafodd ei ddienyddio; ond yr wyf yn cofio, er yn blentyn, glywed llawer o sôn am y bedd rhyfedd yn mynwent Trefaldwyn — nad oedd dim yn tyfu arno; ac yr oedd y chwedlau a draddodid yn ei gylch gan bobl ofergoelus yn amrywiol ac annghyson â'u gilydd. A thrwy fy mod yn annghredu pob chwedlau o'r fath, gwnaethum ymholiad manwl yn ei gylch pan aethum gyntaf i Drefaldwyn; a phe bawn yn ceisio crynhoi sylwedd yr hanes a gefais gan y dynion mwyaf cyfrifol yn y dref, ni byddai ynddo nemawr o wahaniaeth oddiwrth yr hanesyn uchod. Bum yn siarad âg amryw oedd yn cofio yr amser yn dda. Dywedent i'r tyst Pirs golli ei synwyrau yn llwyr o'r dydd y gwnaeth efe y llŵ hyd ei fedd. Bellach yr wyf wedi gweled y bedd ar wahanol dymorau y flwyddyn er's ugain mlynedd, ac y mae bob amser yr un fath, sef heb ddim yn tyfu arno mwy nag sydd ar ganol yr heol, ond nid yw y lle diffrwyth gymaint ei arwynebedd â chauad arch — rhyw- beth fel wyth modfedd o led yn yr ysgwyddau, a phedair neu bump yn y pen a'r traed, ac oddeutu pedair troedfedd a haner o hyd ydyw. Y mae y tir yn mynwent Trefaldwyn yn hynod o fras; a'r gwair sydd yn tyfu ar ni tua diwedd mis Mehefin yn ddeuddeg neu bymtheg modfedd o hyd; ond y mae tua troedfedd o bob tu i'r bedd yn llawer uwch, ac yn ddu ei liw; yr achos o hyn mae yn debyg ydy w y gwrtaith a roddwyd ar y lle gan y gwahanol bersonau a fuont yn ceisio cael gan rywbeth arno. Pan fydd y glaswellt felly wedi tyfu yn uchel, y mae yn naturiol iddo ogwyddo dros y lle noeth, ond y mae pob rhan a ddelo uwchben y bedd yn gwywo, ac yn syrthio fel lludw; ac felly y mae y lle mor Iwm yn nghanol haf ag yn nghanol gauaf. Y mae ei sefyllfa yn mhell oddiwrth y beddau eraill, ar gyfer pen dwyreiniol yr Eglwys. Gelwir ef, "Bedd y dyn a gafodd ei grogi ar gam.

    A gentleman from a neighbouring parish undertook to answer the request, and here is his testimony: — "I wish to inform my fellow countrymen that I cannot offer any direct evidence concerning the man who was executed. However, I remember, even as a child, hearing much talk of the strange grave in Montgomery churchyard upon which nothing would grow. The tales told about it by superstitious people were varied and contradictory. Since I disbelieve such stories, I made careful enquiries about it when I first visited Montgomery. If I were to summarise the substance of what I heard from the most reputable men in the town, it would differ very little from the account given above. I spoke with several people who remembered the events well. They said that the witness Pirs lost his reason completely from the day he took the oath until his death. For the past twenty years I have now seen the grave at different seasons of the year, and it is always the same: nothing grows upon it, any more than in the middle of the road. The barren patch, however, is no larger than a coffin lid — about eight inches wide at the shoulders, four or five inches wide at the head and feet, and approximately four and a half feet long. The soil in Montgomery churchyard is remarkably rich, and the grass growing there towards the end of June is twelve or fifteen inches tall. Yet the grass about a foot on either side of the grave grows much taller and is dark in colour. The reason for this is probably the manure spread over the spot by the various people who have tried to make something grow upon it. When the grass has grown tall in this way, it naturally bends over the bare patch; but every part that extends above the grave withers and falls like ashes. Thus the spot remains as bare in midsummer as in midwinter. Its position is some distance from the other graves, opposite the eastern end of the church. It is called the Grave of the Man Who Was Wrongfully Hanged."

  29. " Dichon y bydd llawer yn annghredu hyn, oni bai iddynt weled y peth eu hunain; ac nid rhyfedd chwaith, canys y mae cynifer o chwedlau o'r fath yn mhlith y Cymry heb ddim sail iddynt ond mympwy ac ofergoeledd; ac yr wyf yn cyfaddef na chredais hyn fy hunan heb ei weled, a bum am flynyddau lawer yn meddwl fod rhyw rai yn rhoddi cyffeiriau gwenwynig ar y lle er atal tyfiad y llysiau. Ond y mae yn ymddangos fod y peth yn cael ei achosi gan Awdwr deddfau natur; ond pa un ai yn naturiol neu yn oruwchuaturiol, ni cheisiaf ateb. Barned pawb trosto ei hun. Dymunwn i naturiaethwyr, llysieu- wyr, fferyllwyr, a duwinyddion, roddi eu barn ar y pwnc. Yr wyf yn sicrhau fod y fath beth yn bod mewn gwirionedd; a phwy bynag a gymero'r drafferth i fyned i Drefaldwyn, ni chaiff ei siomi yn y tir diffrwyth. Y mae yr hanes a draddodir am y condemniedig a'r tystion tu hwnt i bob anmheuaeth, canys y mae wedi digwydd mor ddiweddar. Casglwyd yr hanes gan un o weinidogion yr Eglwys; ac argraffwyd a chyhoeddwyd ef yn bamphledyn oddeutu saith neu wyth mlynedd yn ol, dan yr enw, The Highwayman's Grave ac o'r pamphledyn hwn y cafodd y newyddiaduron Seisnig yr hanes, mae yn debyg, yr hwn a gyfieithiwyd yn onest a diduedd gan Mr. W. Williams."

    "Many may perhaps disbelieve this unless they see it for themselves; nor is this surprising, since there are so many such tales among the Welsh which have no foundation beyond whim and superstition. I confess that I did not believe it myself until I saw it, and for many years I thought that certain people were putting poisonous substances on the spot to prevent the growth of vegetation. But it appears that the phenomenon is caused by the Author of the laws of nature. Whether it is natural or supernatural, however, I shall not attempt to answer. Let everyone judge for himself. I should like naturalists, botanists, chemists, and theologians to give their opinions on the matter. I can assure you that such a phenomenon really exists, and anyone who takes the trouble to visit Montgomery will not be disappointed in finding the barren patch. The account related concerning the condemned man and the witnesses is beyond all doubt, since it happened so recently. The story was collected by one of the Church ministers and printed and published as a pamphlet about seven or eight years ago, under the title The Highwayman's Grave. It was presumably from this pamphlet that the English newspapers obtained the account, which was translated faithfully and impartially by Mr. W. Williams."