Legends of Old Wales: Robin Ddu Ddewin

  1. Robin Ddu Ddewin

    Robin the Black Wizard

  2. ROBIN DDU DDEWIN.

    ROBIN THE BLACK WIZARD.

  3. Ni wyddis ond y nesaf peth i ddim am y bod rhyfedd hwn heblaw yr hyn a drosglwyddir i ni gan draddodiad a llafar gwlad.

    Next to nothing is known about this strange being, apart from what has been handed down to us through tradition and folk legend.

  4. Sonir am dano tan yr amrywiol enwau R.

    He is spoken of under various names: R.

  5. Ddu Ddewin, Robin Ddu o Arfon, a Robin Ddu Hiraddug, a chamgymerir ef weithiau am Robin Ddu o Fon, bardd lled alluog a flodeuai yn y pumthegfed ganrif.

    Ddu Ddewin, Robin Ddu of Arfon, and Robin Ddu of Hiraddug. He is sometimes confused with Robin Ddu of Anglesey, a moderately gifted poet who flourished in the fifteenth century.

  6. Tua haner canrif yn ol, gallesid gweled hen adfail ar ochr Arfon i'r afon Menai a elwid y Tŷ Ceryg, neu Furddun Tŷ Robin.

    About half a century ago, an old ruin could be seen on the Arfon side of the Menai Strait, known as Tŷ Ceryg (the House of Stones), or the Ruined House of Robin Ddu.

  7. Ddu.

    Ddu.

  8. Y mae hefyd luaws o chwedlau am dano yn dwyn cysylltiad â'r Faynol a'r Bryn Tirion, palasau ar gyffiniau y Fenai; ac oddiwrth hyn gellir casglu iddo dreulio rhyw.ysbaid o'i oes yn y parthau hyny; er ei fod yn frawd i Dafydd Ddu Hiraddug, ac yn enedigol o ry wle tua Hiraddug — moel uchel gerllaw y Rhyl yn perthyn i res-fynyddau Clwyd.

    There are also numerous stories about him associated with the Faynol and Bryn Tirion, mansions on the borders of the Menai Strait. From this, it may be inferred that he spent some part of his life in those parts, although he was the brother of Dafydd Ddu Hiraddug and was born somewhere near Hiraddug, a high hill close to Rhyl, belonging to the Clwyd mountain range.

  9. Math o glerfardd hir ei ben ydoedd, yn enill ei fywiolaeth wrth ddewinio, brudio, a rhigymu barddoniaeth.

    He was a kind of long-headed wandering bard, earning his living through wizardry, fortune-telling, and composing rhyming verse.

  10. Y mae'n ddiau ei fod yn gyfrwys tros ben; canys er fod rhai o'i ddaroganau heb eu cyflawni, y mae eraill, o honynt wedi "dwad fel yr oedd o yn deyd" i'r llythyren.

    There is no doubt that he was exceedingly cunning; for although some of his prophecies were never fulfilled, others have come true, quite literally, "just as he said they would."

  11. Y mae yn ddiddadl hefyd fod y wlad wedi tadogi llawer gwrhydri iddo nad oedd y cysylltiad lleiaf rhyngddo âg ef.

    There is no doubt, either, that the people have credited him with many remarkable feats with which he had absolutely nothing to do.

  12. Pa fodd bynag, nid oes genym ni ond adrodd a glywsom am dano gan hen bobl ddifyr yn nghilfachau mynyddau

    At any rate, all we can do is recount what we have heard about him from entertaining old folk in the secluded valleys of the mountains of

  13. " Gwyllt Walia. "

    "Wild Wales."

  14. ROBIN DDU FEL DAROGANWR.

    ROBIN DDU AS A PROPHET.

  15. Un tro yn mherfedd nos yr oedd efe ar daith rhwng Capel Curig a Llanrwst, a phan yn dyfod i lawr Nant Bwlch yr Heyrn, goddiweddodd hen amaethwr o Ddolyddelen, yn myn'd i farchnad Llanrwst.

    One time, in the dead of night, he was travelling between Capel Curig and Llanrwst when, as he descended Nant Bwlch yr Heyrn, he overtook an old farmer from Dolwyddelan who was on his way to Llanrwst market.

  16. Yr oedd yr hen ffermwr hwn yn meddwl ei bod yn tynu at" lasiad dydd," pan mewn gwirionedd nad oedd ond tri o'r gloch y bore gefn y gauaf; nid oedd clociau gan neb y pryd hwnw — cloc yr hall Llanrwst oedd yr unig awrlais yn Nyffryn Conwy.

    The old farmer thought that daybreak was approaching, when in reality it was only three o'clock on a winter morning. Nobody owned a clock in those days; the clock in Llanrwst town hall was the only timepiece in the Conwy Valley.

  17. Pa fodd bynag, aeth yn ymgom rhwng Robin a'r gwladwr, ac yn yr ymgom hono dywedai ein harwr, wrth son am y naill beth a'r llall,

    However, Robin and the countryman fell into conversation, during which our hero, while talking about one thing and another, remarked:

  18. "Wyddost ti beth? pan dyf bedwen ar dalcen tŷ y Gwydr Isaf yn gyfuwch a chorn y simddai, bydd y Gwydr Isaf yn llyn dwfr a'r Gwydr Uchaf yn gorlan defaid."

    "Do you know what? When a birch tree growing on the gable of Gwydr Isaf reaches the height of the chimney stack, Gwydr Isaf will have become a lake and Gwydr Uchaf a sheepfold."

  19. Rhyfeddai ac amheuai ei gydymaith y fath ddywediad.

    His companion marvelled at and doubted such a statement.

  20. "Y mae cyn wired," ebai yntai,

    "It is as certain," he replied,

  21. "ag y tery cloc Llanrwst dri o'r gloch pan gyrhaeddwn y farchnad."

    "as that the Llanrwst clock will strike three when we reach the market."

  22. Cyn wired a bod dwr yn Nghonwy, dyma'r cloc yn taro tri mor fuan ag y daeth y ddau i'r farchnadle; er fod y gŵr o Ddolyddelen yn disgwyl yn siwr mai saith neu wyth fuasai yn daro.

    As surely as there is water in the Conwy, the clock struck three just as the two men arrived at the marketplace, although the man from Dolwyddelan had been quite certain that it would strike seven or eight.

  23. Rhyfeddach fyth; y mae bedwen iachus yn tyfu oddiar dalcen y Gwydr Isaf, a thuag ugain mlynedd yn ol, yr oedd y pren wedi dringo mor agos i linell derfyn y darogan, nes y tybiwyd yn ddoeth godi y simddai ddwy neu dair llath yn uwch, er mwyn gohirio y trychineb.

    More remarkable still, a healthy birch tree is growing from the gable of Gwydr Isaf. About twenty years ago, the tree had grown so close to the point specified in the prophecy that it was thought wise to raise the chimney stack by two or three yards in order to postpone the catastrophe.

  24. Felly nid yw Gwydr Isaf yn llyn dwr na'r Gwydr Uchaf yn gorlan defaid, eto; hyd oni thyf y fedwen yn gyfuwch a chorn y simddai.

    Thus Gwydr Isaf has not yet become a lake, nor Gwydr Uchaf a sheepfold; that is, not until the birch tree grows as high as the chimney stack.

  25. Gyda'r un rhagwybodaeth cyfrin y daroganodd efe hefyd y canlynol:

    With the same mysterious gift of foresight, he also foretold the following:

  26. Gydag agoriad rheilffordd Caer a Chaergybi gall dyn fod yn bersonol yn y manau uchod, fel y bu Robin Ddu yn ddychymygol.

    With the opening of the Chester and Holyhead Railway, a person can now physically visit the places mentioned above, just as Robin Ddu once visited them in imagination.

  27. Dyma Ddarogan arall o'i eiddo:.

    Here is another prophecy of his:

  28. Agorwyd y Suspension tros Fenai yn y flwyddyn 1826; a'r Britannia yn 1849; ond ni wyddis fod agoriad yr un o'r ddwy yn rhagflaenu unrhyw aflonyddwch annghyffredin.

    The Suspension Bridge across the Menai Strait was opened in 1826, and the Britannia Bridge in 1849; but neither opening is known to have been followed by any unusual disturbance.

  29. Ond gwyddai yr hen ddewin cyfrwysgall yn dda mai byd aflonydd ydyw hwn, a pha bryd bynag'y cyf lawnid y fath orchestwaith, y dilynid hyny gan ryw aflonyddwch neu gilydd.

    But the cunning old wizard knew very well that this is an unsettled world, and that whenever such a remarkable feat was accomplished, it would be followed by some disturbance or other.

  30. Er hyny, y mae y peth rhyfeddaf o'r cwbl yn aros yn ddirgelwch, sef pa fodd y daeth i galon dyn yn yr Oesoedd Tywyll hyny y codid y fath "Uchelgaer uwch y weilgi," tros grigylloedd enbydus Porthaethwy.

    Even so, the strangest thing of all remains a mystery: how anyone in those Dark Ages could have conceived that such a "lofty fortress above the sea" would be built across the formidable reefs of Porthaethwy.

  31. Yn nglyn â'r llinellau hyn clywsom y traddodiad hefyd fod y Bala unwaith yn orchuddiedig gan ddwfr; ac hefyd i'r dref gael ei diluwio amryw weithiau pan fyddai gwynt nerthol yn chwythu ar y llyn.

    In connection with these lines, we have also heard the tradition that Bala was once covered by water, and that the town was flooded on several occasions when a strong wind blew across the lake.

  32. Ond y mae pob lle i gredu na chyflawnir y brophwydoliaeth hon byth, oni sudda y dref gryn lawer, neu y dysg dwr fel "balch angenus" fyw uwchlaw ei lefel.

    But there is every reason to believe that this prophecy will never be fulfilled, unless the town sinks considerably, or the water learns, like an "ambitious upstart," to rise above its present level.

  33. Y mae tuag ugain milldir rhwng tref Rhuthyn a bod yn" dref harbwr," ac yn ol pob golwg nid ydyw yn debyg o gael ymweliad gan Dafydd Jones yn oes neb sydd yn fyw yn bresenol.

    The town of Ruthin is about twenty miles away from becoming a "harbour town," and, by all appearances, it is unlikely to receive a visit from Dafydd Jones during the lifetime of anyone now living.

  34. Hwyrach, er hyny, mai "Mi ddown, pan ddown," a fydd hi gyda Dafydd rywbryd eto.

    Perhaps, nevertheless, it will be a case of "I'll come when I come" with Dafydd at some time in the future.

  35. Chwedlau oddiar Lafar Gwlad am dano.

    Folk Tales About Him.

  36. "Gosodir ef allan," ebai Cynddelw,

    "He is described," says Cynddelw,

  37. "fel brawd i Dafydd Ddu Hiraddug, ac adroddir y chwedl hon am danynt: Yr oedd Robin wedi penderfynu lladd pwy bynag a ddygai y newydd iddo fod ei fam wedi marw. O'r diwedd, bu farw yr hen wreigan; ond ni anturiai neb â'r newydd i Robin. 'Myfì a fynegaf iddo,' ebai Dafydd ei frawd. Yna Dafydd a gymerth ei ddameg ac a ddy wedodd wrth Robin, 'Syrthiodd y gangen â'n dygodd ni'n dau. 'Fu farw fy mam?' ebai Robin mewn cyff'ro. 'Tydi a ddywedodd y newydd gyntaf,' ebai Dafydd. Felly nid oedd gan Robin hawl i ladd neb yn ol ei fygythiad."

    "as the brother of Dafydd Ddu Hiraddug, and the following story is told about them: Robin had resolved to kill anyone who brought him the news that his mother had died. At last the old woman passed away, but nobody dared to carry the news to Robin. 'I shall tell him,' said his brother Dafydd. So Dafydd took up his parable and said to Robin, 'The branch that brought us both into the world has fallen.' 'Has my mother died?' Robin exclaimed in agitation. 'You were the first to tell me the news,' replied Dafydd. Thus Robin had no grounds for killing anyone in accordance with his threat."

  38. Ystyrid ef hefyd yn ddewin heb ei fath.

    He was also regarded as a wizard without equal.

  39. Yr oedd ei enwogrwydd yn y gangen hon o'r gelfyddyd ddu wedi cyrhaedd hyd i'r Deheudir — i blith mawrion y tir yn gystal a'r werin bobl.

    His fame in this branch of the black arts had spread as far as South Wales, among the great and powerful as well as the common people.

  40. Yr oedd gwraig rhyw foneddwr yn Nyffryn Teilo wedi colli tri gèm gwerthfawr iawn, na fynasai mor byd yn eu lle.

    The wife of a certain gentleman in the Tywi Valley had lost three very precious gems, for which she would not have accepted the whole world in exchange.

  41. Chwiliwyd am danynt yn mhob ystafell yn y palas, a holwyd yr holl forwynion a'r gweision yn eu cylch, heb y rhithyn lleiaf o obaith am eu. hadferiad.

    They were searched for in every room of the mansion, and all the maids and servants were questioned about them, but there was not the slightest hope of recovering them.

  42. Ymgynghorwyd â dewiniaid a dewinesau yr holl ardaloedd oddiamgylch. ond yr un mor aflwyddianus.

    Wizards and witches from all the surrounding districts were consulted, but with just as little success.

  43. Yr oedd y foneddiges yn dihoeni o'u hachos, canys rhodd oeddynt iddi hi gan chwaer drengedig.

    The lady was pining away over their loss, for they had been a gift to her from a deceased sister.

  44. Pa fodd bynag, daeth i feddwl y boneddwr am Robin Ddu, a thybiodd oddiwrth y son am dano, os byddai rhywun yn abl i'w cael, mai Robin oedd hwnw.

    However, the gentleman thought of Robin Ddu and, judging from all he had heard about him, concluded that if anyone could find the gems, Robin was the man.

  45. Danfonwyd cenad ar farch ar frys gwyllt i Wynedd i ymofyn y Dewin; ac ufuddhaodd yntau i'r cais.

    A messenger on horseback was dispatched in desperate haste to Gwynedd to fetch the Wizard, and he duly complied with the request.

  46. Yr oedd i gael haner cant o bunau os llwyddai i dd'od o hyd i'r trysorau.

    He was to receive fifty pounds if he succeeded in finding the treasures.

  47. Eithr wedi cyrhaedd yno ni ddechreuai ef ar y gwaith o gwbl, os na chai y tâl, llwyddianus neu beidio.

    But once he arrived, he refused to begin the work at all unless he received his payment, whether he succeeded or not.

  48. Barnai y gŵr boneddig fod hyn yn ormod o arian i'w rhoi ar antur, a hysbysodd Robin y carasai wneud prawf o'i allu dewinol yn nghyntaf cyn talu.

    The gentleman considered this too much money to risk and informed Robin that he would prefer to put his magical powers to the test first, before making payment.

  49. "Boddlon fi," ebai yntau; er nad oedd ganddo ond ffydd fach nad syrthio trwodd y buasai yn y prawf;

    "Very well," he replied, although he had little doubt that the test would end in failure;

  50. "ond," meddai,

    "but," he added,

  51. "mi gefais fy ngludo yma yn rhad, ac nid peth bach ydyw hyny i glerfardd. "

    "I have been brought here free of charge, and that is no small thing for a wandering bard."

  52. Felly yr hunan-fyfynai efe mewn un ystafell, tra yr oedd y boneddwr yn parotoi y prawf mewn ystafell arall.

    So he shut himself away in one room, while the gentleman prepared the test in another.

  53. Y prawf a ddewiswyd oedd dodi Robin Goch dôf oedd yn y palas o tan gawgen ar y bwrdd, a pheri i Robin Ddu ddewinio beth oedd o tan y llestr.

    The test chosen was to place a tame robin redbreast, which lived in the mansion, beneath a cage on the table, and ask Robin Ddu to divine what lay beneath it.

  54. O'r diwedd, gwysiodd y boneddwr ef ato, a daeth yntau tan grafu ei lechwedd a gwneud golwg hurt, fel dallhuan yn breuddwydio.

    At last, the gentleman summoned him, and Robin came, scratching his temple and putting on a foolish expression, like an owl lost in a dream.

  55. "Wel," ebai'r gwr boneddig,

    "Well," said the gentleman,

  56. " beth sydd o tan y gawgen yna, Robin?"

    "what is beneath that cage, Robin?"

  57. Ond ni wyddai Robin tu yno i lidiart y mynydd beth i'w ddweyd na'i wneud.

    But Robin, for all his cunning, had no idea what to say or do.

  58. Tybiodd o'r diwedd mai y ffordd oreu fyddai iddo addef ei anwybodaeth.

    At last, he decided that the best course would be to admit his ignorance.

  59. "Mae Robin wedi ei dual yr 'rwan," ebai ef.

    "Robin has been outwitted this time," he said.

  60. "Da iawn, wir; da iawn, wir," ebai'r boneddwr, sut y gwyddet ti, Robin, beth oedd islaw i'r gawg?

    "Very good indeed! Very good indeed!" exclaimed the gentleman. "How did you know, Robin, what was beneath the cage?"

  61. Yr wy'n foddlon 'nawr i dalu'r aur.

    I am now quite willing to pay the gold.

  62. " Ac nid oedd gan Robin yn yr oes hono ddigon o gydwybod i'w gwrthod; yn wir, ychydig fuasai yn eu gwrthod yn yr oes gydwybodol hon. Pa fodd bynag, y peth nesaf i Robin ar ol derbyn yr arian oedd ei henill. I ddechreu, mynodd gael ystafell yn y palas at ei wasanaeth ei hun, a chael allwedd y cyfryw yn hollol tan ei awdurdod. Cafodd un yn rhwydd, ac yno yr aeth, ac yno y byddai yn ocheneidio ac yn darllen rhyw druth o hen lyfrau a ddygasai gydag ef tros yr holl dŷ, er mwyn argyhoeddi y bobl ei fod mewn cyfrinach bwysig â bodau annaearol o barth y lladrad. Ar brydiau deuai allan i'r gegiu, gan lygadu a chlustfeinio, holi a stilio, ar draws ac ar hyd, pawb yn nghylch y gemau. Yr oedd yn llwyr argyhoeddedig oddiwrth ffeithiau amgylchynol, mai rhai o bobl y tŷ oedd yn euog o'r lladrad, a chael allan y pechadur yn eu mysg oedd testyn ei graffder o hyny allan. Un diwrnod aeth i roi tro trwy yr ardal, ac un o'r gweision gydag ef, er mwyn ei gyfarwyddo. Daethant ar ddamwain at fynwent lle yr oedd y torwr beddau wrth ei waith, a hwnw fel grave-digger Shakespeare, yn ddibris ddigon yn taflu esgyrn penglog i fynu o'i weithfa. Wrth edrych ar y gwrthddrych dynolwawdus hwn, tarawyd y dewin gan ddrychfeddwl o gynllun campus. Cododd y danedd a dododd hwynt yn un o'i logellau. Ni wyddai ei gydymaith ar y ddaear beth i'w feddwl o hyn; edrychodd gydag arswyd ar Robin o hyny allan. Wedi cyrhaedd adref aeth y gwas i'r gegin, a Robin i'w ystafell. Adroddodd y gwas hwn wrth ei gydwasanaethyddion pa fodd y bu'r tua'r fynwent; ac edrychent oll ar eu gilydd yn fudanod dychrynedig. Toc, daeth Robin hefyd i'r gegin, ac archodd mewn modd awdurdodol ar i bob enaid yn y lle ymgynull ger ei fron ef. A phawb a ddaethaut. Yna, gan edrych yn sobrddwys a chraff i'w gwynebau, ebai'r dewin, "Fechgyn a genethod, bydd yn noson erchyll yma heno; yr wyf am alw tair lleng at fy ngwasanaeth, y rhai a ddygant gorwynt yn ei hadenydd, ac a nithiant bawb a phobpeth yn y lle mor fân fel yr â gyda'r gwynt, er mwyn d'od o hyd i'r gemau.

    Robin, however, had not enough conscience in those days to refuse the money; indeed, few people in this more conscientious age would have refused it. But after receiving the money, his next concern was to earn it. To begin with, he insisted on having a room in the mansion for his own private use, with its key entirely under his control. This was readily granted, and there he went. He would sigh and read passages from old books he had brought with him, making his way about the house so as to convince everyone that he was engaged in important dealings with supernatural beings concerning the theft. From time to time he would emerge into the kitchen, peering and listening, questioning and probing everyone, here and there, about the jewels. From the surrounding circumstances he was thoroughly convinced that some of the household were responsible for the theft, and from then on his keenest concern was to discover the culprit among them. One day he went for a walk around the neighbourhood, accompanied by one of the servants to show him the way. By chance they came upon a cemetery where the gravedigger was at work. Like Shakespeare's gravedigger, the fellow was quite unconcernedly tossing skull bones up from his digging place. As the wizard looked at this grim human relic, a brilliant idea suddenly occurred to him. He picked up the teeth and put them into one of his pockets. His earthly companion had no idea what to make of this and thereafter regarded Robin with horror. When they returned home, the servant went to the kitchen and Robin to his room. The servant told his fellow servants what had happened at the cemetery, and they all looked at one another like frightened, speechless fools. Before long Robin himself came into the kitchen and authoritatively ordered every soul present to gather before him. Everyone obeyed. Then, looking gravely and searchingly into their faces, the wizard said, "Lads and lasses, a dreadful night awaits us tonight. I intend to summon three legions to my service, whose wings will carry a whirlwind, and which will grind everyone and everything in this place so fine that it will be scattered on the wind, all in order to find the jewels."

  63. Ond ni fynwn er dim i'r dieuog gael ei gospi gyda'r euog, am hyny yr wyf yn rhoddi i bob un ohonoch y papuryn hwn (yn estyn i bob un bapuryn yn cynwys un o'r danedd crybwylledig), a'r sawl sydd ddieuog ni chospir mohono; eithr y sawl sydd euog, bydd yn ddigon mân erbyn y bore i fyned trwy ogr.

    But I would not, for anything, have the innocent punished along with the guilty. Therefore, I am giving each of you this little piece of paper (and he handed each one a slip containing one of the teeth mentioned above). Whoever is innocent will suffer no punishment; but whoever is guilty will be ground fine enough by morning to pass through a sieve.

  64. "Yr oeddynt yn delwi ger bron y dewin rhag ofn i'r corwynt hwnw wneud rhyw gamsyniad. "

    "They stood trembling before the wizard, afraid that the whirlwind might make some terrible mistake."

  65. Ond o ran hyny," ebai ef yn mhellach, "ni raid wrth gorwynt na pheth, ond i mi gael y gemau yn fy ystafell o hyn i haner nos; ac ni raid i un ohonoch ofni y bydd i mi achwyn; na, cadwaf y dirgelwch yn nghilfach ddyfnaf fy nghalon.

    But as for that," he continued, "there is no need for a whirlwind or anything of the kind, provided the jewels are in my room by midnight. And none of you need fear that I shall make an accusation; no, I shall keep the secret locked in the deepest recesses of my heart."

  66. "Yna efe a ddychwelodd i'r ystafell, gan bryderus ddisgwyl pa effaith a gai'r bygythiad llymdost hwnw arnynt. Pa fodd bynag, cyn pen haner awr dyma guro wrth y drws, a daeth un o'r morwynion i mewn tan grynu a dodi y gemau mewn llian o bali yn llaw y dewin."

    Then he returned to his room, anxiously waiting to see what effect that terrible threat would have upon them. Before half an hour had passed, however, there came a knock at the door, and one of the maids entered, trembling, and placed the jewels, wrapped in a piece of fine cloth, in the wizard's hand.

  67. Cofiwch yr amod,

    "Remember the condition,"

  68. " ebai hi wrth fyned ymaith. "

    she said as she left.

  69. Ni raid i ti ofni yn nghylch hyny," ebai yntau. Bu agos iddo hollti ar ei draws gan chwerthin a llawenydd oherwydd ei lwyddiant. Yr oedd y fath lwyddiant tu hwnt i'w obeithion disgleiriaf. Ond nid oedd y boneddwr na'i foneddiges yn gwybod dim am yr ymdrafod hwn; ac yr oedd Robin yn penderfynu na byddai iddo dori ei air yn y gegin na datguddio yr euog. Felly yr oedd yn rhaid iddo drethu ei ymenydd drachefn am gynllun a fuasai yn eu dychwelyd i'w perchenog yn ddyogel a diammheuaeth, a fuasai hefyd yn celu y dull y daeth ef o hyd iddynt. ac ar yr un pryd, cynllun a fuasai yn adlewyrchu clod arno ef fel dewin. Ac yn yr olwg ar ei anhawsderau blaenorol nid oedd hwn ond anhawsder bychan. Cyn cysgu y nos hono yr oedd efe yn dyfeisio ei ddyfais. Cododd yn bur fore dranoeth, a gwelai haid o wyddai yn pori ar y maes tu cefn i'r palas; aeth tuag atynt, a'r gemau mewn darn bychan o fara ganddo. Sylwodd yn graff ar un ohonynt a thaflodd y darn bara gerllaw hono, a llyncwyd ef ganddi yn' uniongyrchol. Yna efe a ddychwelodd i'r tŷ, a chyfarfyddwyd ef wrth ddrws yr ystafell gan y boneddwr, yr hwn a ofynai iddo os cawsai efe rhyw awgrym am y gemau eto. Ebai'r dewin, " Deuwch allan gyda fi yn mhen ychydig fynydau, a dangosaf pa un o'ch adar sydd yn cadw eich trysor.

    "You need have no fear of that," he replied. He could scarcely contain himself for laughter and delight at his success. Such a triumph was beyond his wildest hopes. But neither the gentleman nor his wife knew anything about this arrangement, and Robin was determined not to break his word in the kitchen or expose the guilty person. He therefore had to tax his brains once more to devise a plan that would return the jewels safely and beyond suspicion to their owner, while concealing how he had found them. At the same time, the plan had to enhance his reputation as a wizard. In view of the difficulties he had already overcome, this was only a minor obstacle. Before going to sleep that night, he had devised his scheme. He rose very early the next morning and saw a flock of geese grazing in the field behind the mansion. He approached them with the jewels concealed in a small piece of bread. Carefully choosing one of the birds, he threw the piece of bread near it, and it swallowed it immediately. He then returned to the house, where the gentleman met him at the door of his room and asked whether he had discovered anything further about the jewels. The wizard replied, "Come outside with me in a few minutes, and I shall show you which of your birds is keeping your treasure."

  70. "Felly fu; aeth y boneddwr ag yntau i'r maes, a dangosodd Robin iddo yr wydd lwyd. "

    "And so it happened. The gentleman went with him into the field, and Robin pointed out the grey goose."

  71. lleddwch hon yna," ebai ef, "a chewch yn ei choluddion y tri gèm a gollasoch.

    "Kill that one," he said, "and you will find the three jewels you lost in its entrails."

  72. "Rhyfeddodd y gŵr boneddig yn fawr at y fath ddywediad; ond yr oedd yn rhaid ufuddhau i'r gorchymyn. "

    "The gentleman was greatly astonished by such a statement, but he had to obey the command."

  73. Dyma nhw," ebai Robin, wedi lladd ac agor yr aderyn, "yn gyfan a dianaf.

    "Here they are," said Robin, after killing and opening the bird, "whole and unharmed."

  74. Dyna i chwi ddewin!

    There, now, that's a wizard for you!

  75. " gan ymsythu a haner gredu ei fod yn rhywbeth uwchlaw dynion cyffredin mewn gwirionedd."

    "he said, straightening himself up and half believing that he really was something beyond the ordinary run of mankind."

  76. Dyfod yn ddamweiniol yn. mhlith yr ysgubion o'r parlwr i'r domen a wnaethant, a'r wydd hon yn ei rhaib a'u llyncodd.

    They had accidentally been swept up with the rubbish from the parlour and thrown onto the refuse heap, where the greedy goose swallowed them.

  77. "Wel, ni fu erioed y fath groesaw ag a gafodd ef: yr oedd y foneddiges yn barod i fyned ar ei gliniau i ddioich iddo; cafodd yr anrhydedd o ymborthi wrth yr un bwrdd gyda y boneddwr, a diwrnod neu ddau o hela yn ei gymdeithas; ac nid oedd neb yn fwy ei llawenydd na'r forwynig anonest yr arbedodd efe ei bywyd trwy gelu ei chamwedd. Wedi aros yno am fis yn mhellach, i wledda ac ymddigoni, daeth i'w fryd ddychwelyd adref; a'r boneddwr llawen a wnaeth anrheg iddo ar ei gychwyniad o farch gwineu ysgafndroed llygadlym, ac ar gefn hwnw, a chanddo haner canpunt yn ei logell, y dychwelodd efe i Arfon. Dyna'r dull a gymerai Robin Ddu i enill ei fara, ac argyhoeddi y werin ei fod yn ddewin, ac mewn cyfathrach â bodau annaearol. Dyma chwedl y clywais fy nhaid yn ei hadrodd ganwaith gan droi y naill fawd o amgylch y llall: — Yr oedd Robin pan yn hoglanc yn cael ei damaid yn y Faynol, am y gorchwyl safnrwth o ddychryun brain. Ond yr oedd y gyneddf oruwchnaturiol yn dechreu blaen-darddu ynddo y pryd hwnw; ac un diwrnod yr oedd ffair yn Nghaernarfon, ac yntau yn llawn aspri ac awydd am fod ynddi, ond yr andros o honi ydoedd, nid âi'r brain yno gydag ef. Tra y byddai ef yn y ffair, yr oeddynt hwythau yn lled sicr o ddisgyn yn heidiau ar y maes gwenith. Pa fodd bynag, trwy rym ei gelwyddoneg, penderfynodd wneud o'r goreu â hwynt am yr amser. Cynullodd holl frain y fro yn un lleng ddu grawclyd i ysgubor y Faynol, a chlodd y drws arnynt, gan brysuro tua'r ffair a'r allwedd yn ei logell. Dyna fel y byddai yr hen frawd yn trin y teulu duon — go hwylus, onide? Ond y chwedlau mwyaf rhamanutus yn ei gylch ydynt y rhai hyny sydd yn son am yr ymdrafodaeth fu rhyngddo â'r diafol yn bersonol. Ymddengys fod Robin a'i gyfaill dieflig mewn math o gyngrair, tebyg i'r un a fodolai.rhwng Faust a Mephistopheles, yn ngwaith Goethe, y bardd Germanaidd rhagorol. Addefa pawb fod y diafol yn un lled graff yn ei fargeinion, ond oddiwrth y chwedlau canlynol gwelir fod Robin yn rhy dost iddo. Rywdro yn nghanol haf addawodd ei hunan iddo, gorph ac enaid, pan fyddai'r coed yn ddi-ddail; eithr pan ddaeth yr Hydref, a'r diafol yn galw am gyflawni yr adduned, ymesgusododd y cyfrwysgall Robin trwy ddywedyd, —

    "Well, he had never received such a welcome! The lady was ready to fall on her knees to thank him. He was honoured with a place at the gentleman's own table and enjoyed a day or two of hunting in his company. Nor was anyone more delighted than the dishonest little maid whose life he had saved by concealing her wrongdoing. After staying there another month, feasting and making merry, he began to think of returning home. The grateful gentleman presented him, as a parting gift, with a swift-footed, sharp-eyed grey horse, and on its back, with fifty pounds in his pocket, Robin returned to Arfon. Such was the method Robin Ddu employed to earn his living and persuade the common folk that he was a wizard, in league with supernatural beings. Here is a story I heard my grandfather tell a hundred times, all the while turning one thumb around the other: — When Robin was a boy, he earned his keep at the Faynol by performing the humble task of frightening away crows. But even then his supernatural gift was beginning to emerge. One day there was a fair at Caernarfon, and Robin was full of eagerness and longing to attend it. The trouble was that the devilish crows would not go there with him. While he was enjoying himself at the fair, they were almost certain to descend in flocks upon the wheat field. However, by dint of his cunning, he decided to make the best of things for the time being. He gathered all the crows in the district into one noisy black legion in the barn at the Faynol, locked the door on them, and hurried off to the fair with the key in his pocket. That was how the old fellow dealt with the black family — pretty convenient, wasn't it? But the most romantic stories about him are those concerning his dealings with the Devil in person. It seems that Robin and his fiendish companion had entered into a kind of pact, rather like the one between Faust and Mephistopheles in the work of Goethe, the distinguished German poet. Everyone admits that the Devil is a fairly shrewd fellow when it comes to bargains, but the following tales show that Robin was too clever for him. Once, in midsummer, Robin promised himself to the Devil, body and soul, when the trees should be leafless. But when autumn came and the Devil demanded that he fulfil his promise, the cunning Robin excused himself by saying —

  78. Yr oedd ar Robin eisiau myn'd i Lundain ar frys gwyllt i fod yn dyst mewn cynghaws cyfreithiol.

    Robin urgently needed to go to London to appear as a witness in a legal case.

  79. Fel y dylai pawb wybod, yr oedd taith o Arfon i Lundain, bedwar can' mlynedd yn ol, mor bwysig ac yn cymeryd cymaint o amser a thaith o Lerpwl i Gaerefrog Newydd yn ein dyddiau ni.

    As everyone ought to know, travelling from Arfon to London four hundred years ago was as momentous and time-consuming an undertaking as travelling from Liverpool to New York is in our own day.

  80. Ond nid oedd gan Robin, yn nghanol Gwynedd, ond ychydig oriau na byddai ei eisiau yn y Brifddinas.

    But Robin, in the heart of Gwynedd, had only a few hours in which to reach the capital.

  81. Trwy rym ei ddewiniaeth galwodd am wasanaeth ei gyfaill, ac ymddangosodd yntau ar ffurf march gwelwlas uchelwaed.

    By the power of his magic, he summoned his companion to his aid, and the latter appeared in the form of a tall, pale-grey, high-bred horse.

  82. Neidiodd y dewin ar gefn y march hwn, ac ymaith ag ef fel pluen ar aden corwynt uwchben nentydd a mynyddau, afonydd a threfydd, y rhai a lithrent heibio iddo fel ffug-olygfeydd mewn breuddwyd gwrach.

    The wizard leapt onto the horse's back, and away they flew like a feather borne on the wing of a whirlwind, over valleys and mountains, rivers and towns, which slipped past beneath him like phantom scenes in a witch's dream.

  83. Cyrhaeddodd ben ei daith yn mhen dwy- awr union i'r amser y cychwynodd.

    He reached his destination exactly two hours after setting out.

  84. Buasai hyn yn curo pob trên yn deilchion.

    That would have beaten every train to pieces.

  85. Byddai Robin yn cael cymdeithas ei gyfaill yn rhodfeydd cyffredin bywyd; ac yn gwneud iddo trwy ei gyfrwysdra gyflawni llawer o fân orchwylion yn ei le, a a phob amser yn llwyddo i siomi a thwyllo yr archdwyllwr. yr oedd y Dewin un diwrnod ar ei daith i godi pytatws.

    Robin would often have his companion for company in the ordinary affairs of life, and by his cunning would make him perform all sorts of little tasks on his behalf, always succeeding in outwitting and deceiving the great deceiver himself. One day the Wizard was on his way to dig potatoes.

  86. "I b'le yr ei di?"

    "Where are you going?"

  87. ebai'r diafol.

    asked the Devil.

  88. "I gynull cnwd y maes," oedd yr ateb.

    "To gather the crop from the field," came the reply.

  89. " Roddi di yr haner i mi am dy helpio?"

    "Will you give me half in return for my help?"

  90. "Gwnaf," ebai Robin;

    "I will," said Robin;

  91. " pa un fyni di ai'r hyn sydd allan o'r ddaear ai'r hyn sydd yn y ddaear?"

    "which would you prefer, what is above the ground or what is beneath it?"

  92. "Yr hyn sydd allan o'r ddaear," ebai Apolyon gan dybied mai i fedi yr oeddynt eu dau yn myned.

    "What is above the ground," said Apollyon, imagining that they were both going to reap a harvest.

  93. Felly cafodd Robin y pytatws a diafol y gwlydd.

    Thus Robin got the potatoes and the Devil got the weeds.

  94. Drachefn, yr oedd Robin dro arall yn myned i fedi, a chymerodd geiriau cyffelyb le rhyngddynt, a'r diafol y tro hwnw a ddewisodd yr hyn oedd yn y ddaear, gan iddo gael ei siomi o'r blaen.

    On another occasion, Robin was going to reap a crop, and a similar conversation took place between them. This time the Devil chose what was beneath the ground, having been disappointed on the previous occasion.

  95. A chafodd Robin frig y gwenith a'r diafol ei wraidd.

    Robin therefore got the tops of the wheat, while the Devil received its roots.

  96. Gwarchod ni!

    Heaven preserve us!

  97. onid allem lanw cyfrol drwchus a thraddodiadau anhygoel cyffelyb?

    Could we not fill a thick volume with equally incredible traditions?

  98. Ar gefn Robin Ddu Ddewin y mae pobl y Gogledd yn rhoddi pob cast a hen chwedl ryfedd.

    The people of North Wales attribute every trick and strange old tale to Robin Ddu Ddewin.

  99. Deallwn mai Sion Cent, bardd enwog yn ei ddydd, ydyw bwch diangol gwyr Gwent a Dyfed; a phriodolir ambell un o'r chwedlau hyn i'r naill a'r llall.

    We understand that Sion Cent, a celebrated poet in his day, serves as the convenient scapegoat of the people of Gwent and Dyfed, and that some of these stories are attributed to either man.

  100. Un ysgub ramantus arall, a dyma ni yn troi pen ar ein mwdwl hwn o chwedlau yn nghylch Robin Ddu. — Efe a addawodd lawer tro y celai y diafol ef ar ol ei farw — pan ar ol dwyn ei gorph trwy ddrws ei fwthyn a thrwy y porth i'r fynwent; a chredai'r bôd ufferuol nad oedd modd iddo gael ei siomi yn hyn beth bynag.

    One more romantic tale, and then we shall bring this heap of stories about Robin Ddu to a close. — He promised the Devil on several occasions that he would have him after his death, once his body had been carried through the door of his cottage and through the gateway into the churchyard. The infernal creature believed that, at least in this matter, there was no possibility of being disappointed.

  101. Pan fyrhaodd ei anadl, ac y gorweddai ar ei wely cystudd diweddaf. gwyliai y diafol yn ddyfal trosto, rhag iddo trwy ryw ddichell geisio ysgoi cyflawniad yr amod.

    As his breath grew short and he lay upon his deathbed, the Devil watched him closely, lest he should try by some trick to evade fulfilment of the agreement.

  102. Ond profodd Robin eto yn rhy dost iddo; yr oedd wedi rhoddi gorchymyn fisoedd yn ol i un o'r cymydogion yn mha fodd ac yn mha le yr oeddid i'w gladdu.

    But Robin once again proved too clever for him. Months earlier, he had given one of his neighbours precise instructions as to how and where he was to be buried.

  103. Yr oeddynt i dori agen yn mur y bwthyn, a myned a'r arch allan trwy hwnw, er mwyn ysgoi y drws; a gochel porth y fynwent trwy ei gladdu tan wâl y fynwent — haner i mewn ynddi a haner allan o honi.

    They were to make an opening in the wall of the cottage and carry the coffin out through it, thereby avoiding the doorway. They were also to avoid the churchyard gate by burying him beneath the churchyard wall, half inside and half outside it.

  104. Felly, ni chafodd y diafol na phytatws, na gwenith, na chorph Robin Ddu; ac er cyfrwysed ydoedd, ac ydyw o ran hyny, efe a gyfarfyddodd â'i gyfrwysach yn mherson y Dewin dichellgar o Arfon.

    Thus the Devil got neither potatoes, nor wheat, nor the body of Robin Ddu. For all his cunning, both then and now, he had met his match in the person of the crafty Wizard from Arfon.

  105. Nid oedd ganddo ond gadael y corph yn y fan yr oedd, a dychwelyd yn waglaw a siomedig i rhyw gŵr arall o'i ymherodraeth.

    He had no choice but to leave the body where it lay and return empty-handed and disappointed to some other lord of his dominion.

  106. Ac oddiar y traddodiad hwn y tarddodd y ddiareb, "Da fod gan y bwystfil a gornia gyrn byrion;g ac un arall, "Y ci a lyf y gareg am na fedr ei chnoi.

    And from this tradition arose the proverb, "It is fortunate that the beast that butts has short horns," and another: "The dog licks the stone because it cannot chew it."

  107. "

  108. Nodiadau golygu

    Editorial Notes